Cyfarfodydd
NDM7153 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau TGAU a Safon Uwch
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 02/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 02/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau TGAU a Safon Uwch
NDM7153 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau
TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod
canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth na chanlyniadau haf 2007.
3. Yn gresynu
ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y dysgwyr sy'n sicrhau graddau TGAU A*-C
mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail iaith.
4. Yn nodi bod ymchwil
Llywodraeth Cymru wedi canfod bod perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol
ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi dirywio.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch
yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu
siomi.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ar ôl pwynt 1, dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Yn llongyfarch
disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o
ganlyniadau.
Yn croesawu:
a) bod canlyniadau
Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;
b) bod Cymru wedi
gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a
Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am
y tro cyntaf erioed;
c) bod y canlyniadau
TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf hwn;
d) bod cynnydd o dros
50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod
cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C
mewn pynciau gwyddonol;
e) bod nifer y
disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi
cynyddu 12.5 y cant;
f) bod nifer y
disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod
2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle:
Yn credu nad oes modd
gwneud cymariaethau ystyrlon gyda chanlyniadau TGAU a safon uwch blynyddoedd
blaenorol am nifer o resymau.
Gwelliant 3 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi canfyddiadau
Estyn fod disgyblion sy’n mynychu hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru yn
methu â chyrraedd eu llawn botensial erbyn yr amser iddynt adael yr ysgol.
Yn credu fod y
berthynas rhwng disgybl ac athro yn allweddol i gyrhaeddiad academaidd a bod yn
rhaid ariannu ysgolion yn ddigonol er mwyn codi safonau.
Yn galw am wella
amodau gwaith athrawon, gan ddileu biwrocratiaeth ac ymyrraeth diangen, er mwyn
cryfhau cyflawniad academaidd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddarparu cyllid digonol i’n hysgolion ac i symud gwariant tuag at wasanaethau
ataliol yn ei chyllideb nesaf, er mwyn creu’r amodau i’n disgyblion a’n
hathrawon lwyddo.
Gwelliant 4 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 5, dileu “i
gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng
Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi” a rhoi yn
ei le “i ymddiheuro nad yw’r gyfundrefn addysg bresennol yn caniatáu i hanner
disgyblion ysgol Cymru gyrraedd eu llawn botensial”.
Gwelliant 5 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dysgwyr
TGAU a safon uwch Cymru yn cael eu niweidio gan newidiadau diweddar sy'n
glastwreiddio atebolrwydd ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r
duedd hon.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.36
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7153 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth na chanlyniadau
haf 2007.
3. Yn gresynu ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y dysgwyr sy'n
sicrhau graddau TGAU A*-C mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail iaith.
4. Yn nodi bod ymchwil Llywodraeth Cymru wedi canfod bod perfformiad yn
erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi dirywio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad
TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni
ac ysgolion am eu siomi.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
41 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff
ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau.
Yn croesawu:
a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi
parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;
b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon
Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob
gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;
c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi
dangos gwelliant yr haf hwn;
d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr
ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng
nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau
gwyddonol;
e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C
yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;
f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU
Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi
ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
23 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dysgwyr TGAU a safon uwch Cymru yn
cael eu niweidio gan newidiadau diweddar sy'n glastwreiddio atebolrwydd
ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r duedd hon.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7153 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.
2. Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith
caled ac am set gref o ganlyniadau.
3. Yn croesawu:
a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel
uchaf yn eu hanes;
b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â
rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n
gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;
c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf
hwn;
d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU
gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n
ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol;
e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg
fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;
f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu
22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
8 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.