Cyfarfodydd
Brexit
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/11/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y diweddaraf ar ymadael â’r UE
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Clywodd y Comisiynwyr sut mae’r Comisiwn yn parhau i
gyflawni ei flaenoriaeth o gefnogi ‘ymateb sefydliadol cryf’ i ymadael â’r UE.
Roeddent yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i gefnogi’r Senedd fel deddfwrfa
ac i liniaru’r risg i barhad busnes y Senedd o ran diwedd cyfnod trefniadau
pontio’r UE ar 31 Rhagfyr 2020.
Hefyd, trafodwyd yr
angen i wneud penderfyniad ar swyddfa’r Senedd ym Mrwsel, ac ar ôl dod o
wahanol safbwyntiau, cytunwyd ar yr opsiwn i gynnal Swyddfa Brwsel fel y mae’n
gweithredu ar hyn o bryd nes i’r Comisiwn wneud penderfyniad tymor hwy ar ei
dyfodol yn y Chweched Senedd.
Cyfarfod: 19/06/2020 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 6.)
Blaenoriaethau’r pwyllgorau yn ystod y cyfnod pontio wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cyfarfod: 11/03/2020 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 5.)
Blaenoriaethau Brexit i bwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad Brexit
Eitem lafar
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
fod y paratoadau ar gyfer gadael yr UE ar 31 Ionawr a'r cyfnod gweithredu
dilynol (hyd at 31 Rhagfyr 2020) yn mynd rhagddynt, mewn perthynas â busnes y
Cynulliad a'r gwasanaethau corfforaethol (gan gynnwys contractau gwasanaeth a
chyflenwi).
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit
Eitem lafar
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y ffaith
bod y timau busnes a’r gwasanaethau corfforaethol cysylltiedig â gwaith y
Comisiwn yn parhau â’u paratoadau ar gyfer senarios amrywiol yn ymwneud â
Brexit.
Cyfarfod: 16/10/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 4.2)
Diweddariad ar fframweithiau cyffredin
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
- Cyfyngedig 18
Cyfarfod: 16/10/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 4.1)
Diweddariad ar lafar gan y Cadeiryddion ar waith pwyllgorau yn ymwneud â Brexit
Cyfarfod: 16/10/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 4.)
Brexit
Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad ar Brexit
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
wybodaeth a roddwyd am baratoadau ar gyfer senarios amrywiol yn ymwneud â
Brexit ar ochr busnes ac ochr gwasanaethau corfforaethol y Comisiwn.