Cyfarfodydd
Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf’
NDM5073 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a
Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
3 Gorffennaf 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.
Dogfennau ategol:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.06
NDM5073 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
FIN(4) 12-12 – Papur 2 – Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Paul Silk, Cadeirydd, y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Yr Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
Dyfrig John, Cadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality
Dogfennau ategol:
- FIN(4) 12-12 - Papur 2 - Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 222 KB Gweld fel HTML (3/1) 17 KB
Cofnodion:
4.1 Croesawodd y Cadeirydd
Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru; yr Athro Noel Lloyd,
cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Dyfrig John, Cadeirydd Cymdeithas
Adeiladu’r Principality; ac Ed Sherriff, Cynghorydd Economaidd, i’r cyfarfod
preifat.
4.2 Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.
Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Adroddiad drafft ar Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion:
4.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i’r Aelodau ar gyfer sylwadau drwy e-bost.
Cyfarfod: 30/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Cyllid datganoledig: pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - tystiolaeth allweddol a themâu sy’n dod i’r amlwg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
Cyfarfod: 24/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
Will McLean, Arweinydd Ymgysylltu a Phartneriaethau Strategol Cyngor Sir Fynwy;
a Peter Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Cyngor Sir Fynwy, i’r cyfarfod.
3.2 Bu aelodau’r
Pwyllgor yn holi’r tystion.
3.3 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion
i ofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth am gwestiynau nas gofynnwyd yn y
cyfarfod.
Cyfarfod: 24/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Trafod y dystiolaeth - Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
Cofnodion:
Cyfarfod: 24/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
FIN(4) 08-12 – Papur 1 – Cyfarwyddwyr Cyllid Llywodraeth
Leol yr Alban
Cyfarwyddwyr Cyllid
Llywodraeth Leol yr Alban (drwy Gynhadledd Fideo)
Bruce West,
Pennaeth Cyllid Strategol, Cyngor Argyll a Bute
Ian Black, Pennaeth Cyllid a TG, Cyngor East Dunbartonshire
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Bruce West, Pennaeth Cyllid Strategol, Cyngor Argyll a Bute, ac Ian
Black, Pennaeth Cyllid a TG, Cyngor East Dunbartonshire, i’r cyfarfod drwy gynhadledd
fideo.
2.2 Bu aelodau’r
Pwyllgor yn holi’r tystion.
2.3 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion
i ofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth am gwestiynau nas gofynnwyd yn y
cyfarfod.
Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
FIN(4) 07-12 – Paper 2 – Local Government Association
Stephen Jones, Director
of Finance and Resources, Local Government Association
Dogfennau ategol:
- FIN(4) 07-12 Papur 2 :Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf (Saesneg yn unig, Eitem 3 PDF 310 KB Gweld fel HTML (3/1) 49 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau,
y Gymdeithas Llywodraeth Leol.
3.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.
Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
FIN(4) 07-12 – Papur 1 – Llywodraeth Cymru
Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid
Gerry Holtham, Cynghorydd ar Fuddsoddi mewn
Seilwaith
Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru
Jeff Andrews, Cynghorydd polisi
Dogfennau ategol:
- FIN(4) 07-12 : Papur 1 : Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf, Eitem 2 PDF 271 KB Gweld fel HTML (2/1) 88 KB
- FIN(4) 07-12 : Papur 1 : Cyllid Datganoledig Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf : Annex 1(saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 154 KB Gweld fel HTML (2/2) 32 KB
- FIN(4) 07-12 : Papur 1 : Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf : Annex 2 (saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 2 MB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid;
Gerry Holtham, Cynghorydd ar Fuddsoddi mewn Seilwaith; Andrew Jeffreys, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi.
2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn
am ragor o wybodaeth am y cwestiynau nas cyrhaeddwyd.
Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Trafod y dystiolaeth - Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth i’w ymchwiliad i
Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian
Cyfalaf.
Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Trafod y dystiolaeth - Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf
Cofnodion:
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’i ymchwiliad i Gyllid
Datganoledig: Pwerau Benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.
Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
FIN(4)-06-12 - Papur 1 - Scottish Futures Trust
Peter Reekie, Cyfarwyddwr Cyllid, Scottish Futures Trust (drwy gynhadledd ffôn)
Dogfennau ategol:
- FIN(4) 06-12 (p1) Devolved Funding - Scottish Futures Trust(Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 314 KB Gweld fel HTML (2/1) 47 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Peter Reekie, Cyfarwyddwr Cyllid, Scottish Futures Trust (drwy gynhadledd
fideo) i’r cyfarfod.
2.2 Bu’r Pwyllgor
yn holi’r tyst.
Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf - Cynghorydd Arbenigol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
Cofnodion:
8.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod â’i gynghorydd arbenigol ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf.
Cyfarfod: 20/02/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - cynghorydd arbenigol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar benodiad cynghorydd arbenigol ar gyfer ei ymchwiliad i Fenthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.
Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - Cylch gorchwyl posibl a gwybodaeth gefndir berthnasol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
Cofnodion:
Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Galwad am dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i gyllid datganoledig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 51 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion:
4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ymchwiliad sydd ganddo ar y gweill i gyllid datganoledig.
Cyfarfod: 12/10/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Ymchwiliad posibl i Gyllid Datganoli
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 54 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
7.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am gwmpas ymchwiliad ar gyllid datganoli a Chomisiwn y DU a’i gymeradwyo.
Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ymchwiliad posibl i gyllid datganoli
(11.10-11.20)
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymchwiliad posibl i gyllid datganoli.