Cyfarfodydd

Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf’

 

NDM5073 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.06

 

NDM5073 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

FIN(4) 12-12 – Papur 2 – Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

 

Paul Silk, Cadeirydd, y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Yr Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Dyfrig John, Cadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru; yr Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Dyfrig John, Cadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality; ac Ed Sherriff, Cynghorydd Economaidd, i’r cyfarfod preifat.

 

4.2 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.


Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Adroddiad drafft ar Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i’r Aelodau ar gyfer sylwadau drwy e-bost.


Cyfarfod: 30/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Cyllid datganoledig: pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - tystiolaeth allweddol a themâu sy’n dod i’r amlwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod tystiolaeth allweddol a themâu sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â’i ymchwiliad i gyllid datganoledig: pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.


Cyfarfod: 24/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf

FIN(4) 08-12 – Papur 2 – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Will McLean, Arweinydd Ymgysylltu a Phartneriaethau Strategol Cyngor Sir Fynwy

Peter Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Cyngor Sir Fynwy

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Will McLean, Arweinydd Ymgysylltu a Phartneriaethau Strategol Cyngor Sir Fynwy; a Peter Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Cyngor Sir Fynwy, i’r cyfarfod.

 

3.2 Bu aelodau’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

3.3 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion i ofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth am gwestiynau nas gofynnwyd yn y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 24/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafod y dystiolaeth - Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei ymchwiliad i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf.


Cyfarfod: 24/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf

FIN(4) 08-12 – Papur 1 – Cyfarwyddwyr Cyllid Llywodraeth Leol yr Alban

 

Cyfarwyddwyr Cyllid Llywodraeth Leol yr Alban (drwy Gynhadledd Fideo)

Bruce West, Pennaeth Cyllid Strategol, Cyngor Argyll a Bute

Ian Black, Pennaeth Cyllid a TG, Cyngor East Dunbartonshire

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Bruce West, Pennaeth Cyllid Strategol, Cyngor Argyll a Bute, ac Ian Black, Pennaeth Cyllid a TG, Cyngor East Dunbartonshire, i’r cyfarfod drwy gynhadledd fideo.

 

2.2 Bu aelodau’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

2.3 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion i ofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth am gwestiynau nas gofynnwyd yn y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf

FIN(4) 07-12 – Paper 2 – Local Government Association

 

Stephen Jones, Director of Finance and Resources, Local Government Association

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

 

3.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.     

 


Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf

FIN(4) 07-12 – Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid

Gerry Holtham, Cynghorydd ar Fuddsoddi mewn Seilwaith

Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews, Cynghorydd polisi 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Gerry Holtham, Cynghorydd ar Fuddsoddi mewn Seilwaith; Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi.

 

2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am y cwestiynau nas cyrhaeddwyd.

 

 


Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth i’w ymchwiliad i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf.

 

   

 


Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod y dystiolaeth - Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’i ymchwiliad i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.

 


Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf

FIN(4)-06-12 - Papur 1 - Scottish Futures Trust

 

Peter Reekie, Cyfarwyddwr Cyllid, Scottish Futures Trust (drwy gynhadledd ffôn)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Peter Reekie, Cyfarwyddwr Cyllid, Scottish Futures Trust (drwy gynhadledd fideo) i’r cyfarfod.    

 

2.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tyst.

 


Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf - Cynghorydd Arbenigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod â’i gynghorydd arbenigol ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf. 


Cyfarfod: 20/02/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - cynghorydd arbenigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar benodiad cynghorydd arbenigol ar gyfer ei ymchwiliad i Fenthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.


Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - Cylch gorchwyl posibl a gwybodaeth gefndir berthnasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei ymchwiliad i fenthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.


Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Galwad am dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i gyllid datganoledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ymchwiliad sydd ganddo ar y gweill i gyllid datganoledig.


Cyfarfod: 12/10/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ymchwiliad posibl i Gyllid Datganoli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am gwmpas ymchwiliad ar gyllid datganoli a Chomisiwn y DU a’i gymeradwyo.


Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad posibl i gyllid datganoli

(11.10-11.20)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymchwiliad posibl i gyllid datganoli.