Cyfarfodydd

Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor arfaethedig - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 - Gorchymyn Adran 109 yn ymwneud â Swyddogion Cofrestru Etholiadol

NDM7176 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol  yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2019.

Dogfen Ategol
Gorchymyn Arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.56

NDM7176 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol  yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 - Gohiriwyd tan 6 Tachwedd 2019

NNDM7170

 

Rebecca Evans (Gŵyr)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

 

1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.

 

2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.

 

Bil y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig)

 


Cyfarfod: 16/09/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor arfaethedig - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019: Sesiwn dystiolaeth

Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol

Diane Dunning, Llywodraeth Cymru

Dr Hugh Rawlings, Llywodraeth Cymru

Angharad C Thomas-Richards, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-24-19 – Papur briffio 1

CLA(5)-24-19 - Papur 1 - Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor

CLA(5)-24-19 – Papur 2 – Memorandwm Esboniadol (Llywodraeth Cymru)

CLA(5)-24-19 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol (Llywodraeth y DU)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol; Dr Hugh Rawlings, Cyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru; Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru, ac Angharad C Thomas-Richards,  Ymgynghorydd y Rhaglen Diwygio Etholiadol, Llywodraeth Cymru.