Cyfarfodydd

NDM7133 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd Aer

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd Aer

NDM7133 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai  yng Nghymru y mae peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU a bod rhai ardaloedd wedi torri rheoliadau'r UE ers sawl blwyddyn, gan arwain at gymryd Llywodraeth Cymru i'r llys am ddiffyg gweithredu.

2. Yn gresynu bod tua 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn (6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru) o ganlyniad i ansawdd aer gwael.

3. Yn nodi ymhellach bod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol ar yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad oes dealltwriaeth lawn eto o effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael.

4. Yn galw ar y Cynulliad hwn i basio bil aer glân, a'i ddeddfu, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn etholiadau nesaf y Cynulliad.

5. Yn credu y dylai'r Ddeddf:

a) ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd;

b) mandadu Llywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob 5 mlynedd;

c) rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a chymryd camau yn ei erbyn;

d) cyflwyno 'hawl i anadlu' lle y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu grwpiau agored i niwed pan fydd rhai lefelau yn torri'r canllawiau a argymhellir. 

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop.

Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng Nghymru.

Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella.

Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru.

Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnwys is-bwyntiau newydd ym mhwynt 5:

mynnu bod cerbydau sy'n defnyddio diesel yn unig a phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddol erbyn 2030;

creu parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd;

rhoi'r hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai;

galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd;

llunio gynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol i leihau llygredd aer yng Nghymru;

diwygio'r gyfraith cynllunio i'w gwneud yn ofynnol y rhoddir mwy o bwys ar effaith llygredd aer yn y system gynllunio.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio

NDM7133 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai  yng Nghymru y mae peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU a bod rhai ardaloedd wedi torri rheoliadau'r UE ers sawl blwyddyn, gan arwain at gymryd Llywodraeth Cymru i'r llys am ddiffyg gweithredu.

2. Yn gresynu bod tua 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn (6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru) o ganlyniad i ansawdd aer gwael.

3. Yn nodi ymhellach bod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol ar yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad oes dealltwriaeth lawn eto o effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael.

4. Yn galw ar y Cynulliad hwn i basio bil aer glân, a'i ddeddfu, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn etholiadau nesaf y Cynulliad.

5. Yn credu y dylai'r Ddeddf:

a) ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd;

b) mandadu Llywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob 5 mlynedd;

c) rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a chymryd camau yn ei erbyn;

d) cyflwyno 'hawl i anadlu' lle y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu grwpiau agored i niwed pan fydd rhai lefelau yn torri'r canllawiau a argymhellir.  

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

33

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop.

Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng Nghymru.

Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella.

Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru.

Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

21

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7133 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop.

2. Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng Nghymru.

3. Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella.

4. Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

20

45

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.