Cyfarfodydd
NDM7124 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Awtisiaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Awtistiaeth
NDM7124 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi
adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar 1
Ebrill 2019.
2. Yn nodi ymhellach y
datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019.
3. Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi’r Bil Awtistiaeth (Cymru) ar
waith.
4. Yn cydnabod er bod
adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu
gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg mesurau canlyniadau o fewn yr
adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig 2016.
5. Yn cydnabod, er bod
rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru,
bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar
ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth awtistiaeth
integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi awtistiaeth o ansawdd uchel drwy:
a) darparu cymorth a
gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang
o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni
disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth drwy fynd y tu hwnt i
ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth;
b) datblygu system
fonitro glir a chyson er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar
gyfer pobl awtistig;
c) egluro'r trefniadau
ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r
cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr
gwasanaethau;
d) rhoi'r gwasanaeth
awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a
chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan
gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
e) gweithio i
weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig cyn
gynted ag y bo'n ymarferol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu, er mwyn i
bobl ag awtistiaeth gael y gwasanaethau gorau posibl, fod angen ystyried
niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb ynddo'i hun, a bod cael ymennydd nad
yw'n niwronodweddiadol yn dod yn nodwedd warchodedig o dan ddeddfwriaeth
cydraddoldebau, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb yn unol â hynny.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 ac
ailrifo’n unol â hynny.
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu
popeth ar ôl is-bwynt a, a rhoi yn ei le:
adeiladu ar y gwaith monitro
sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar
ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
egluro'r trefniadau
ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r
cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y byddwn wedi cael yr
eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n
setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny;
rhoi'r gwasanaeth
awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a
chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan
gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
gweithio gyda
phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer
Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.03
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7124 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth
Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019.
2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019.
3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi’r Bil
Awtistiaeth (Cymru) ar waith.
4. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol
ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull
Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg
mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu
Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016.
5. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella
gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r
cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y
gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi
awtistiaeth o ansawdd uchel drwy:
a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd
sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y
gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth
drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth;
b) datblygu system fonitro glir a chyson er mwyn gallu adrodd yn fwy
effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth
awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth
2021, er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau;
d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i
gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn
y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm
Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth; ac
e) gweithio i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth
Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu, er mwyn i bobl
ag awtistiaeth gael y gwasanaethau gorau posibl, fod angen ystyried
niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb ynddo'i hun, a bod cael ymennydd nad
yw'n niwronodweddiadol yn dod yn nodwedd warchodedig o dan ddeddfwriaeth
cydraddoldebau, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb yn unol â hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
27 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 ac
ailrifo’n unol â hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
20 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu
popeth ar ôl is-bwynt a, a rhoi yn ei le:
adeiladu ar y gwaith
monitro sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol
ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
egluro'r trefniadau
ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r
cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y byddwn wedi cael yr
eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n
setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny;
rhoi'r gwasanaeth
awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a
chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan
gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
gweithio gyda
phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer
Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
20 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7124 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth
Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019.
2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019.
3. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol
ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull
Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg
mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu
Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016.
4. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella
gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r
cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y
gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi
awtistiaeth o ansawdd uchel drwy:
a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd
sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y
gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth
drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth;
b) adeiladu ar y gwaith monitro sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn
gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth
integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y
byddwn wedi cael yr eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y
DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny;
d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i
gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn
y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm
Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
e) gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y
Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu
Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
1 |
16 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.