Cyfarfodydd
NDM7118 Dadl Plaid Cymru - Diwygio'r Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Blaid Cymru - Diwygio'r Cynulliad
NDM7118 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am
gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.
2. Yn galw am
weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad erbyn
dechrau’r Chweched Cynulliad.
3. Yn galw am ddiwygio
system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy
o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le;
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y
panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.
2. Yn credu nad oes
awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng
Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:
a) deddfu cynigion
adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;
b) cyflymu'r broses o
ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Senedd
Sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi
Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.
2. Yn cytuno bod angen
cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.
3. Yn galw am ragor o
waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.
Senedd
sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod heriau
sylweddol o ran capasiti Aelodau'r Cynulliad i ymgymryd â gwaith craffu
boddhaol ar ddeddfwriaeth a Llywodraeth Cymru.
2. Yn galw am i ymchwiliad
pellach i effaith unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad ac a oes
cefnogaeth gyhoeddus i symudiad o'r fath.
3. Yn galw am unrhyw
gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad i gael ei ariannu drwy arbedion
cyffredinol i drethdalwyr, yn deillio o ganlyniad i leihad yn nifer gyffredinol
y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru.
4. Yn galw ar i unrhyw
Aelodau Cynulliad ychwanegol gael eu hethol ar sail heb fod yn llai cyfrannol
na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Cofnodion:
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7118 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.
2. Yn galw am weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau
Cynulliad erbyn dechrau’r Chweched Cynulliad.
3. Yn galw am ddiwygio system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system
pleidlais sengl drosglwyddadwy o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y
Cynulliad yn 2021.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le;
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y
panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.
2. Yn credu nad oes
awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng
Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:
a) deddfu cynigion
adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;
b) cyflymu'r broses o
ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
47 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi
Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.
2. Yn cytuno bod angen
cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.
3. Yn galw am ragor o
waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7118 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi
Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.
2. Yn cytuno bod angen
cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.
3. Yn galw am ragor o
waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.