Cyfarfodydd

NDM7100 Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

NDM7100 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.    Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

a)    iechyd meddwl a llesiant emosiynol;

b)    sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac

c)    sbwriel a gwastraff plastig.

2.    Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.

3.    Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.

Datganiad -Senedd Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Yn unol â Rheol Sefydlog 13.3, gwahoddodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, wyth Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad at ddibenion yr eitem hon ar y cyd. Roedd 31 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn y Siambr ar gyfer yr eitem.

NDM7100 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.    Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

a)    iechyd meddwl a llesiant emosiynol;

b)    sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac

c)    sbwriel a gwastraff plastig.

2.    Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.

3.    Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.

Datganiad -Senedd Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(ii), cynhaliwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon ar ddiwedd y ddadl.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig.

Am 14.15, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 15 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull.


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Eitem fusnes ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru - trefniadau manwl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a daethant i'r casgliad mai eu dewis oedd cael pleidlais ar y cynnig, yn hytrach nag iddo gael ei dderbyn heb bleidleisio arno. Siaradwyr y grwpiau ar gyfer yr eitem fydd Arweinwyr y Pleidiau, ac eithrio Plaid Cymru lle y bydd Rhun ap Iorwerth yn siarad. Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes annog eu Haelodau i fod yn bresennol ar gyfer y ddadl.