Cyfarfodydd
NDM7071 Dadl Plaid Brexit - Gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Brexit - Gadael yr Undeb Ewropeaidd
NDM7071 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi
pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
2. Yn gresynu na
wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, er gwaethaf sawl addewid gan
Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o ASau wedi pleidleisio i gychwyn
proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad hwnnw.
3. Yn gwrthod unrhyw
estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar ôl 31 Hydref 2019.
4. Yn nodi y gallai
gadael heb fargen leihau costau bwyd, dillad ac esgidiau yn sylweddol, ac y
bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y DU.
5. Yn penderfynu y
dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref 2019 oni bai bod
yr UE, o leiaf:
a) yn cynnig cytundeb
masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a
b) yn derbyn
trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd Iwerddon.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn gresynu nad yw'r
Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eto.
3. Yn credu y dylid
rhoi canlyniad y refferendwm ar waith.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.57
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7071
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
2.
Yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, er gwaethaf sawl
addewid gan Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o ASau wedi pleidleisio i
gychwyn proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad hwnnw.
3.
Yn gwrthod unrhyw estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar ôl 31 Hydref 2019.
4.
Yn nodi y gallai gadael heb fargen leihau costau bwyd, dillad ac esgidiau yn
sylweddol, ac y bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y DU.
5.
Yn penderfynu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref
2019 oni bai bod yr UE, o leiaf:
a)
Yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a
b)
Yn derbyn trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd Iwerddon
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
45 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwigio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r
cyfan a rhoi yn ei le:
1.
Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis
Mehefin 2016.
2.
Yn gresynu nad yw'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eto.
3.
Yn credu y dylid rhoi canlyniad y refferendwm ar waith.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
2 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan nad yw'r Cynulliad wedi derbyn y cynnig
heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y
cynnig felly ei Wrthod.