Cyfarfodydd
NDM7029 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Trechu Tlodi
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Trechu Tlodi
NDM7029 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a
chynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu.
2.
Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi
ym mhob portffolio gweinidogol.
3.
Yn cydnabod ac yn llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu
tlodi.
Cyd-gyflwynwyr
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cefnogwyr
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.58
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7029 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a chynllun gweithredu
manwl ar gyfer gweithredu.
2. Yn galw ar y Prif
Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi ym mhob
portffolio gweinidogol.
3. Yn cydnabod ac yn
llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu tlodi.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
12 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.