Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

NDM7105 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/censusreturnparticularsandremovalofpenalties.html

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.21

NDM7105 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 19/06/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Trafod adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau).

 


Cyfarfod: 17/06/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau): Adroddiad drafft

CLA(5)-19-19 – Papur 13 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunwyd arno yn amodol ar un newid, ac roedd yn fodlon i’r newid hwn gael ei wneud y tu allan i’r cyfarfod.

 

 


Cyfarfod: 10/06/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

CLA(5)-18-19 – Papur briffio cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 


Cyfarfod: 05/06/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno.


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 21

Cofnodion:

Business Managers agreed to refer the LCM to ELGC, with a reporting deadline of 27 June and noted that the Plenary debate is scheduled for 2 July.