Cyfarfodydd

NDM7020 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon

NDM7020 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig am fil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon.

2. Yn nodi mai diben y bil hwn fydd:

a) hybu'r defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon; a

b) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.