Cyfarfodydd

NDM7047 Dadl Plaid Cymru - Uno TATA Steel a ThyssenKrupp

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl Plaid Cymru - Uno TATA Steel a ThyssenKrupp - Tynnwyd yn ôl

NDM7047 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod TATA Steel a ThyssenKrupp wedi cyhoeddi eu bwriad i werthu gwaith dur Trostre yn Llanelli fel rhan o fwriad i uno'r ddau gwmni.

2. Yn nodi ymhellach bod undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr yn ffatrïoedd TATA yng Nghymru wedi dweud nad ydynt bellach wedi'u hargyhoeddi mai uno yw'r opsiwn gorau i TATA Steel Europe a'u bod wedi mynegi pryderon nad partneriaeth gyfartal yw'r fenter ar y cyd, ac yn credu y gall penderfyniadau strategol yn y dyfodol flaenoriaethu buddiannau gweithrediadau ThyssenKrupp uwchlaw rhai TATA Steel Europe.

3. Yn nodi bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ei adolygiad o'r cytundeb cyd-fenter arfaethedig tan 17 Mehefin.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r uno fel y caiff ei gynnig ar hyn o bryd a gwneud sylwadau ar y sail honno i Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth y DU a Bwrdd TATA Steel Europe.

 

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl