Cyfarfodydd

NDM7041 - Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol

NDM7041 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi:

a) yn galonnog y frwydr fyd-eang i ddiwreiddio hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o bob math; a

b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil.

2. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso'r gwaith o lunio datganiad trawsbleidiol, yn crynhoi egwyddorion Diddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil mewn ymgynghoriad â'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf priodol.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil (Saesneg yn unig)

Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

NDM7041 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi:

a) yn galonnog y frwydr fyd-eang i ddiwreiddio hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o bob math; a

b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil.

2. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso'r gwaith o lunio datganiad trawsbleidiol, yn crynhoi egwyddorion Diddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil mewn ymgynghoriad â'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf priodol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.