Cyfarfodydd

P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn wyneb y ffaith y bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn monitro’r cynnydd pellach o ran ariannu a darparu gwasanaethau addysg cerddoriaeth, yn dilyn eu hadroddiad blaenorol ar y pwnc hwn, cytunodd y Pwyllgor i rannu sylwadau pellach y deisebydd â hwy, cau’r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ddarparu’r wybodaeth a ddaeth i law hyd yma a gofyn a fyddai’r Pwyllgor hwnnw’n ei ystyried fel rhan o unrhyw waith pellach y mae’n bwriadu ei wneud yn y maes hwn.

 

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu eto at y Cyngor Addysg Cerddoriaeth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ymatebion ac, yn achos yr olaf, gwybodaeth am ddosbarthiad y cyllid blaenorol a roddwyd i awdurdodau lleol;

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi achosi'r oedi wrth gomisiynu a chael adroddiad yr astudiaeth ddichonoldeb; a

·         holi’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am unrhyw fwriad sydd ganddo i fynd ar drywydd ei ymchwiliad blaenorol i’r pwnc hwn.

 


Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ei ferch yn aelod o nifer o gorau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am gyhoeddiad astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ar yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth a Chynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, ac

·         ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Cyngor Addysg Cerddoriaeth i ofyn am eu barn ynghylch y materion a godwyd gan y ddeiseb a'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg cerddoriaeth a gwasanaethau addysg cerddoriaeth.