Cyfarfodydd
NDM7046 Dadl Plaid Cymru - Byrddau Iechyd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 08/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 08/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Byrddau Iechyd
NDM7046 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi cyhoeddi'r adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm
Taf ar 30 Ebrill 2019.
2.
Yn nodi bod pryderon mawr ynghylch ansawdd gofal a threfniadau llywodraethu
byrddau iechyd hefyd wedi cael eu codi yn yr adroddiadau canlynol:
a)
Ymddiried mewn Gofal: Adolygiad annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty
Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg,
2014;
b)
Ymchwiliad allanol Donna Ockenden i bryderon a godwyd ynghylch gofal a
thriniaeth cleifion ar ward Tawel Fan, 2014; ac
c)
Adolygiad Donna Ockenden o'r trefniadau llywodraethu sy'n ymwneud â gofalu am
gleifion ar ward Tawel Fan, 2018.
3.
Wedi colli hyder bellach yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
presennol yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r methiannau systemig a
godwyd yn yr adroddiadau hyn, ac mewn adroddiadau eraill.
Adolygiad
o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf. 2019
Donna
Ockenden - ymchwiliad allanol i bryderon a godwyd ynghylch gofal a thriniaeth
cleifion ar ward Tawel Fan. 2014 (Saesneg yn unig)
Donna
Ockenden - adolygiad o'r trefniadau llywodraethu yn ymwneud â gofal cleifion ar
ward Tawel Fan. 2018 (Saaesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd
i deuluoedd;
Yn
nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus
i wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; ac
Yn
nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion
llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG
Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.54
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7046
Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi'r
adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar 30 Ebrill
2019.
2. Yn nodi bod
pryderon mawr ynghylch ansawdd gofal a threfniadau llywodraethu byrddau iechyd
hefyd wedi cael eu codi yn yr adroddiadau canlynol:
a) Ymddiried mewn
Gofal: Adolygiad annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd
Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 2014;
b) Ymchwiliad allanol
Donna Ockenden i bryderon a godwyd ynghylch gofal a thriniaeth cleifion ar ward
Tawel Fan, 2014; ac
c) Adolygiad Donna
Ockenden o'r trefniadau llywodraethu sy'n ymwneud â gofalu am gleifion ar ward
Tawel Fan, 2018.
3. Wedi colli hyder
bellach yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol yn
Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r methiannau systemig a godwyd yn yr
adroddiadau hyn, ac mewn adroddiadau eraill.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
31 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ol
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd
i deuluoedd;
Yn
nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus
i wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; ac
Yn
nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion
llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
24 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7046
Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi'r
adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar 30 Ebrill
2019.
2. Yn derbyn
argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd i
deuluoedd;
3. Yn nodi’r camau
sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus i
wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; a
4. Yn nodi’r camau
sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion
llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG
Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
1 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.