Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Mesur Seneddol ynghylch Diogelu Rhyddidau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 31/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau

NDM4854 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn NDM4680, y darpariaethau pellach hynny a ddygwyd gerbron yn Bil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth a diogelu data, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.(iii)

Dogfennau Ategol
I weld copi o Fil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau, ewch i: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/protectionoffreedoms/documents.html

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol


Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol)

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 05/12/2011 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Y Mesur Seneddol ynghylch Diogelu Rhyddidau (Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol)

 

 

 

Papurau: CLA(4)-14-11(p1) – Nodyn briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Mesur Seneddol ynghylch Diogelu Rhyddidau (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol)

 

Dogfennau ategol: