Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Strategaeth cyllideb ddrafft y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- AC420112Paper4DraftCommissionBudgetStrategy201213$L
Cofnodion:
Cyflwynodd Claire Clancy y papur.
Nodwyd y byddai’n rhaid i’r Comisiwn, er mwyn gallu darparu eiddo, staff a
gwasanaethau i’r Cynulliad, ystyried ei blaenoriaethau i yrru’r strategaeth. Eu
blaenoriaethau hwy fyddai’n bwydo i mewn i’r gwaith mwy manwl o ran y gyllideb,
a fyddai’n cael ei ystyried yn fwy manwl dros y misoedd nesaf.
Nododd y Comisiwn y profiad a gafwyd wrth
weithredu’r strategaeth gyfredol a’r camau a gymerwyd i leihau’r gyllideb
gyffredinol hyd yn hyn. Roedd y Comisiynwyr yn pryderu y byddai gostyngiad
pellach yn nifer y staff yn debygol o effeithio ar wasanaethau i’r cyhoedd a’r
Aelodau. Erbyn hyn, mae’r Cynulliad yn ddeddfwrfa sydd â phwerau ychwanegol, ac
mae’n rhaid i’r Comisiwn fod yn hyderus bod ganddo’r adnoddau i ddarparu ei
wasanaethau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd gwerth am arian hefyd yn hanfodol.
Trafodwyd yr angen am ddigon o hyblygrwydd yn y gyllideb i gynnal ei
swyddogaethau craidd. Nodwyd effaith cynydd a oedd yn hysbys, megis mewn
chwyddiant, codiadau cyflog a rhent, a nodwyd dibrisio asedau sefydlog.
Disgwylid y byddai’r cymharydd 0.2% â’r bloc Cymreig yn darparu digon o
hyblygrwydd i sicrhau gallu darparu’r gwasanaethau angenrheidiol. Er hynny,
cytunwyd bod angen trafodaeth bellach a chomisiynwyd papur ar gyfer cyfarfod
nesaf y Comisiwn ar 14 Gorffennaf.
Gweithred: Claire Clancy i ddarparu papur
i’r cyfarfod nesaf.