Cyfarfodydd
P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd
Dogfennau ategol:
- PET(4)-05-12 p12a Tudalen flaen, Eitem 6 PDF 282 KB Gweld fel HTML (6/1) 13 KB
- PET(4)-05-12 p12b Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau - Saesneg yn unig, Eitem 6 PDF 213 KB
- PET(4)-05-12 p12c Pob ymateb i'r ymgynghoriad - Saesneg yn unig, Eitem 6 PDF 840 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb.
O gofio’r wybodaeth a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r nifer cymharol isel o ymatebion a gafwyd i’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau;
i holi barn yr holl bartneriaid, gan gynnwys cynghorwyr lleol ac arweinwyr
cymunedol, Cymunedau yn Gyntaf; yr heddlu a’r Byrddau Diogelu Lleol
i anfon copi o’r ohebiaeth hon at Aelodau Cynulliad yr etholaeth a’r rhanbarth.