Cyfarfodydd

NDM7021 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Plant Sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Plant Sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol

NDM7021 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig;

b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac

c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref. 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7021 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i gleifion gyda phwyslais therapiwtig;

b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac

c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

18

2

49

Derbyniwyd y cynnig.