Cyfarfodydd
NDM7019 Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig te - Yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Yr Undeb Ewropeaidd
NDM7019
Gareth Bennett (Canol De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y Cytuniad
ar yr Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo aelod-wladwriaethau i symud tuag at uno
agosach fyth ymhlith pobl Ewrop.
2. Yn gresynu bod yr
UE, ers 1973, wedi cymryd pŵer oddi ar seneddau cenedlaethol etholedig, ac
wedi ei ganoli yn nwylo sefydliadau anetholedig yr UE.
3. Yn nodi bod fetoau
cenedlaethol yn cael eu herydu wrth ffafrio pleidlais y mwyafrif yng Nghyngor y
Gweinidogion, mewn nifer gynyddol o feysydd polisi, ac y bydd y duedd hon yn
parhau am gyfnod amhenodol.
4. Yn credu bod
ansicrwydd parhaus y trafodaethau rhwng yr UE a'r Deyrnas Unedig yn creu perygl
y bydd y Deyrnas Unedig yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn groes i ewyllys
penderfyniad y pobl fel y mynegwyd yng nghanlyniad refferendwm 2016.
5. Yn credu bod y
prosiect Ewropeaidd yn rym ddi-baid, yn cael ei hyrwyddo gan sefydliadau
parhaol yr UE, yn arbennig y Comisiwn, a bod y risgiau o aros o fewn yr UE yn
cynnwys dod yn ddarostyngedig i fyddin Ewropeaidd, rhagor o integreiddio
economaidd ac erydu sofraniaeth y Deyrnas Unedig.
6. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r
UE mor gyflym â phosibl, er mwyn hwyluso'r broses o ymadael yn llawn a dirwystr
â'r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru
wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin
2016.
2. Yn credu bod yn
rhaid parchu canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb
Ewropeaidd ac y dylid gweithredu'r penderfyniad i ymadael.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas
Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
“Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod yr
Undeb Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a
sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu.
2. Yn ailddatgan ei
gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn
pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019.
3. Yn credu beth
bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio
cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl
rhwng y DU a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.
[Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y
Cytundeb Ymadael a drafodwyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd wedi'i
wrthod dro ar ôl tro gan Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
2. Yn nodi bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio ar 30 Ionawr 2019 y 'dylid
dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus'.
3. Yn credu y dylid
ymestyn Erthygl 50 am hyd at 21 mis fel y gellir cynnal pleidlais y bobl i
alluogi'r bobl i benderfynu a ddylid cymeradwyo'r Cytundeb Ymadael a drafodwyd
neu aros yn yr UE.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud datganiad i'r Cynulliad yn nodi'r camau y mae wedi'u cymryd
i baratoi ar gyfer pleidlais y bobl a pha sylwadau y mae wedi'u gwneud i
Lywodraeth y DU i'r perwyl hwn.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.14
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7019 Gareth Bennett (Canol De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo
aelod-wladwriaethau i symud tuag at uno agosach fyth ymhlith pobl Ewrop.
2. Yn gresynu bod yr UE, ers 1973, wedi cymryd pŵer oddi ar seneddau
cenedlaethol etholedig, ac wedi ei ganoli yn nwylo sefydliadau anetholedig yr
UE.
3. Yn nodi bod fetoau cenedlaethol yn cael eu herydu wrth ffafrio pleidlais
y mwyafrif yng Nghyngor y Gweinidogion, mewn nifer gynyddol o feysydd polisi,
ac y bydd y duedd hon yn parhau am gyfnod amhenodol.
4. Yn credu bod ansicrwydd parhaus y trafodaethau rhwng yr UE a'r Deyrnas
Unedig yn creu perygl y bydd y Deyrnas Unedig yn aros o fewn yr Undeb
Ewropeaidd, yn groes i ewyllys penderfyniad y pobl fel y mynegwyd yng
nghanlyniad refferendwm 2016.
5. Yn credu bod y prosiect Ewropeaidd yn rym ddi-baid, yn cael ei
hyrwyddo gan sefydliadau parhaol yr UE, yn arbennig y Comisiwn, a bod y risgiau
o aros o fewn yr UE yn cynnwys dod yn ddarostyngedig i fyddin Ewropeaidd,
rhagor o integreiddio economaidd ac erydu sofraniaeth y Deyrnas Unedig.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ddod i
gytundeb masnach rydd gyda'r UE mor gyflym â phosibl, er mwyn hwyluso'r broses
o ymadael yn llawn a dirwystr â'r Undeb Ewropeaidd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
40 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru
wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin
2016.
2. Yn credu bod yn rhaid
parchu canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb
Ewropeaidd ac y dylid gweithredu'r penderfyniad i ymadael.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael
â'r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
35 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
“Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod yr Undeb
Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a
sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu.
2. Yn ailddatgan ei
gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn
pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019.
3. Yn credu beth bynnag
fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y
cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU
a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
19 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
[Gan fod gwelliant 2 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7019 Gareth Bennett (Canol De
Cymru)
1. Yn nodi bod yr Undeb
Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a
sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu.
2. Yn ailddatgan ei
gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn
pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019.
3. Yn credu beth bynnag
fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y
cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU
a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
7 |
11 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.