Cyfarfodydd
NDM7018 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Llywodraeth Leol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Llywodraeth Leol
NDM7018
Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig
y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr
heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod
trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd, yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth
gyngor nag yn Lloegr na'r Alban.
4. Yn gresynu bod
a) lefel y dreth
gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym
1999; a
b) lefel y dreth
gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu
llywodraeth leol Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod lefelau
treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai
yn Lloegr.
Yn cydnabod bod y
fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn
flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 4.
Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymgynghori ar setliad ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol a
fyddai'n caniatáu ar gyfer cynllunio tymor hwy ar gyfer llywodraeth leol.
Gwelliant
4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod y
dreth gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a
diffyg blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r
gyllideb.
Gwelliant
5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y
cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.
Gwelliant
6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd
wrth i lywodraeth leol wario grantiau.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7018 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau
lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae
awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd,
yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr na'r Alban.
4. Yn gresynu bod
a) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu
ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999; a
b) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu
ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu
adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
35 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt
2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod lefelau
treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai
yn Lloegr.
Yn cydnabod bod y
fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn
flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
17 |
42 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
[Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod y dreth
gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a diffyg
blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r
gyllideb.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
32 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y cysylltiad
pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd
wrth i lywodraeth leol wario grantiau.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
8 |
0 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7018 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth
ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn
eu hwynebu ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D
yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.
4. Yn cydnabod bod y
fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn
flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.
5. Yn cydnabod y
cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.
6. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd
wrth i lywodraeth leol wario grantiau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
8 |
11 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.