Cyfarfodydd

P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r bwriad i lansio Strategaeth Diogelwch Dŵr Cymru a gan fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar natur anrhagnodol y Cwricwlwm newydd i Gymru yn glir, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar y ddeiseb ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i’w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am:

y bwriad i lansio Strategaeth Diogelwch Dŵr Cymru a barn bellach gan y deisebydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-868 Diogelwch Dwr, Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dwr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am rhagor o wybodaeth am y camau i ddatblygu Strategaeth Diogelwch Dŵr i Gymru Gyfan ac am amserlen Grŵp Diogelwch Dŵr Cymru Gyfan, ac i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder oherwydd bod hwn yn fater sy’n effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd.

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau i ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu Cynllun Diogelwch Dŵr i Gymru a sut y gallai gefnogi datblygiad cyfleoedd nofio diogel yn yr awyr agored.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-868 Diogelwch Dŵr, Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i rannu'r wybodaeth bellach a gafwyd gan y deisebwyr a gofyn am ei hymateb i'r cynigion, gan gynnwys y cynnig am Gynllun Diogelwch Dŵr i Gymru.