Cyfarfodydd
CLA60 - Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/12/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012
NDM4869 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2011.
Dogfennau ategol:
Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 – Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 28/11/2011 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.3)
3.3 CLA60 - Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012
Y weithdrefn gadarnhaol. Ni nodwyd y dyddiad y’i gwnaed. Ni nodwyd y dyddiad y’i gosodwyd. Yn dod i rym ar 31 Ionawr 2012.
Dogfennau ategol:
- CLA60 - Adroddiad, Eitem 3.3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3.3/1) 13 KB
- CLA60 - Gorchymyn, Eitem 3.3 PDF 63 KB Gweld fel HTML (3.3/2) 78 KB
- CLA60 - Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig), Eitem 3.3 PDF 56 KB Gweld fel HTML (3.3/3) 34 KB