Cyfarfodydd

Rheoli Grantiau yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol gyda rhai argymhellion i wella ymhellach Adroddiadau Rheoli Grant Blynyddol yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2015

PAC(4)-07-16 Papur 1

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau.

 


Cyfarfod: 04/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan Syr Derek Jones (22 Hydref 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan Syr Derek Jones (11 Awst 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Ystyried gohebiaeth

PAC(4)-21-14 (papur 3)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i drafod y mater eto yn ystod gwanwyn 2015 pan fydd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar reoli grantiau ar gyfer 2014/15 ar gael.

5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am ragor o wybodaeth am werth grantiau yr effeithir arnynt yn dilyn achosion o ddiffyg cydymffurfio ar ôl yr archwiliadau dirybudd.

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a chytunwyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Rheoli Grantiau yng Nghymru

PAC(4)-16-14(papur 1)

PAC(4)-16-14(papur 1A)
PAC(4)-16-14(papur 2)

PAC(4)-16-14(papur 3)

PAC(4)-16-14(papur 4)

PAC(4)-16-14(papur 5)

Briff ymchwil

 

Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

Damien O’Brien - Prif Weithredwr WEFO

David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethu

Peter Ryland - Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a Chyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru, Damien O'Brien, Prif Weithredwr WEFO, 

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Peter Ryland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhaglen Perfformiad a Chyllid Llywodraeth Cymru ar reoli grantiau.

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda rhagor o wybodaeth am nifer o faterion.

 


Cyfarfod: 18/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (3 Mawrth 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013

PAC(4)-06-14 (papur 1)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad gan nodi y gwneir trefniadau i drafod yr eitem hon ymhellach ar ôl y Pasg pan fydd dau adroddiad cysylltiedig gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gael. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth cyn y cyfarfod hwnnw.

 


Cyfarfod: 15/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Trafod y cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-27-13 Papur 1

PAC(4)-27-13 Papur 2

 

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i adolygu'r sefyllfa ar ôl i adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau, a ddisgwylir ym mis Rhagfyr 2013, gael ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 07/05/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Rheoli Grantiau yng Nghymru - Ystyried yr adroddiad drafft terfynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar ei adroddiad drafft ar Reoli Grantiau yng Nghymru a chytunodd i ystyried fersiwn wedi ei ddiwygio drwy e-bost.


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Rheoli Grantiau yng Nghymru – Trafod yr adroddiad terfynol drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad terfynol drafft ar Reoli Grantiau yng Nghymru a chytunodd i’w drafod ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 23/04/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Rheoli Grantiau yng Nghymru - Ystyried yr Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Fe wnaeth Julie Morgan ddatgan diddordeb mewn Rheoli Grantiau yng Nghymru oherwydd bod ei gŵr yn gyn Brif Weinidog Cymru â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli grantiau yn ystod y cyfnodau sydd wedi eu hamlygu yn yr adroddiad drafft, ac eithriodd ei hun rhag cymryd rhan yn y trafodion.

 

6.2 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar ei adroddiad drafft ar Reoli Grantiau yng Nghymru a bydd yn rhoi rhagor o ystyriaeth i’r adroddiad mewn cyfarfod arall.

 


Cyfarfod: 03/12/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Ystyried y dystiolaeth ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan'

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan’ a byddai’n ei ystyried fel rhan o’r ymchwiliad i Reoli Grantiau yng Nghymru.


Cyfarfod: 03/12/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Tystiolaeth ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan'

 

Llywodraeth Cymru (14.05 – 15.30)

PAC(4) 28-12 – Papur 1

Derek Jones, Yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru  

Damien O'Brien, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Huw Brodie, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol a Chydraddoldeb

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu

Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd

 

Y Gronfa Loteri Fawr (15.30 – 16.15)

PAC(4) 28-12 – Papur 2

John Rose, Cyfarwyddwr Cymru, Y Gronfa Loteri Fawr

 

Dr Rita Austin (16.15 – 17.00)

Dr Rita Austin, Cyn Gadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol; Damien O’Brien, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Huw Brodie, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol a Chydraddoldeb; David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraeth; ac Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llywodraethu a Sicrwydd Corfforaethol i’r cyfarfod.

 

2.2 Craffodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru.

 

Camau i’w cymryd:

 

Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am y model o greu un sefydliad ambarél i oruchwylio a dyrannu grantiau i gyrff eraill, gan gynnwys enghreifftiau o le mae’r model wedi’i weithredu’n effeithiol a lle caiff y model ei ystyried yn werth da am arian.

·         Amserlen glir yn amlinellu pryd y gwneir yr argymhellion yn yr adroddiad Gwasanaethau Archwilio Mewnol.

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am arian a adenillwyd gan AWEMA drwy’r broses ddiddymu.

 

2.3 Croesawodd y Cadeirydd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru, y Gronfa Loteri Fawr i’r cyfarfod.

 

2.4 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Gofynnwyd i’r Gronfa Loteri Fawr ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am gostau gweinyddu grantiau’r Gronfa Loteri Fawr.

 

2.5 Croesawodd y Cadeirydd Dr Rita Austin, Cyn-gadeirydd AWEMA i’r cyfarfod.

 

2.6 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Pwynt gweithredu:

 

Gofynnwyd i Dr Rita Austin ddarparu:

 

·         Nodyn ar yr hyn y mae’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ei ddysgu o’r sefyllfa yn AWEMA fel sail ar gyfer ei threfniadau rheoli grantiau yn y dyfodol a sut mae’n gweithio gyda sefydliadau’r trydydd sector.


Cyfarfod: 22/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Rheoli Grantiau yng Nghymru - Ymdrin ag adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Reolaeth Llywodraeth Cymru o'i pherthynas â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor sut oedd am ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan’.


Cyfarfod: 22/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli grantiau yng Nghymru - Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 'Reolaeth Llywodraeth Cymru o'i pherthynas â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan'

PAC(4) 22-12 – Papur 1 – Rheolaeth Llywodraeth Cymru o'i perthynas â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan

 

Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol

Mike Usher, Cyfarwyddwr y Grŵp Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru

Matthew Mortlock, Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

Mark Jones, Rheolwr Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru; Mike Usher, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Ariannol; Matthew Mortlock, Rheolwr Archwilio Perfformiad; a Mark Jones, Rheolwr Archwilio Ariannol.

 

2.2 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ystyried yr adroddiad drafft 'Rheoli Grantiau yng Nghymru'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor newidiadau i’w adroddiad drafft ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’, a fyddai’n cael ei gyhoeddi’n fuan, a chytunodd ar y newidiadau hynny.

 


Cyfarfod: 10/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ystyried yr adroddiad drafft 'Rheoli Grantiau yng Nghymru'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1        Nododd y Pwyllgor ei fod wedi cytuno yn ei gyfarfod diwethaf, ar 3 Gorffennaf 2012, i ddechrau’r cyfarfod hwn yn breifat.

1.2        Trafododd y Pwyllgor y newidiadau i’w adroddiad drafft ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ a chytunodd arnynt.

 


Cyfarfod: 03/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Rheoli grantiau yng Nghymru - themâu allweddol a materion sy'n dod i'r amlwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y themâu allweddol a’r materion sy’n dod i’r amlwg o’i ymchwiliad i Reoli grantiau yng Nghymru.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf 2012.


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ystyried y dystiolaeth ar reoli grantiau yng Nghymru

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei ymchwiliad i reoli grantiau yng Nghymru.


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Grantiau yng Nghymru - Tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

PAC(4) 09-12 – Papur 1 – Rheoli Grantiau – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

 

Graham Benfield, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Phil Jarrold, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Graham Benfield, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a Phil Jarrold, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, i’r cyfarfod.

 

2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

2.3 Cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu:

 

·         Enghreifftiau o arfer da ac arfer gwael a welir ledled Cymru o ran rheoli grantiau a gweithredu prosesau caffael, a hynny er mwyn darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cymhleth cymunedau.

  


Cyfarfod: 08/05/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli grantiau yng Nghymru - tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

PAC(4) 07-12 – Papur 1 – Rheoli Grantiau – CLlLC

 

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC

Mari Thomas, Swyddog Polisi (Cyllid), CLlLC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC, a Mari Thomas, Swyddog Polisi (Cyllid), CLlLC i’r cyfarfod.

 

2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd CLlLC ar y canlynol:

 

·         I ddarparu eglurhad o’r angen i hepgor taliadau diswyddo (a’r defnydd o’r hepgoriadau hyn) pan fo staff awdurdodau lleol yn gweithio ar gontractau tymor penodol; ac

·         Eglurhad ynghylch a yw angen o’r fath yn deillio o Reoliadau Ewropeaidd.

  


Cyfarfod: 08/05/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ystyried y dystiolaeth ynghylch rheoli grantiau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth ynghylch ei ymchwiliad i reoli grantiau yng Nghymru.


Cyfarfod: 24/04/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Rheoli Grantiau yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd Y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru; Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; ac Arwel Thomas, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol

5.2 Bu’r Aelodau yn craffu ar dystiolaeth gan y Swyddog Cyfrifyddu.

5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Swyddog Cyfrifyddu i ofyn am wybodaeth ychwanegol mewn ateb i gwestiynau nis cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn hon.

 

Cam i’w gymryd:

        Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu siart yn amlinelllu’r lleihad dros amser yn nifer ei chynlluniau grant.

 


Cyfarfod: 31/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Rheoli grantiau yng Nghymru - tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Arwel Thomas, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol

 

 

Cofnodion:

6. 1 Croesawodd y Pwyllgor y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol; Michael Hearty, Cyfarwyddwr CyffredinolCynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; ac Arwel Thomas, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd.

 

6.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad i AWEMA a rhagor o fanylion am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir gan AWEMA yn cael eu cynnal.  

 

 

 

 

 


Cyfarfod: 06/12/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

3. Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Reoli Grantiau

PAC(4) 08-11 - Papur 1 - Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli Grantiau yng Nghymru

 

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol: