Cyfarfodydd
NNDM6985 - Trafodaethau ar Ymadael â'r UE
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar NNDM6985 - Trafodaethau ar Ymadael â'r UE
NNDM6985 Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer
ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU.
2. Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y
negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019
neu ar unrhyw adeg.
3. Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd
camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y
dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd
orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig gyfan.
Cyd-gyflwynwyr:
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 – Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dwyn i gof
fod Llywodraeth y DU, cyn y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi anfon llyfryn
at bob aelwyd yn y Deyrnas Unedig, yn datgan, o dan y pennawd 'Penderfyniad
Unwaith Mewn Cenhedlaeth', 'Cred y Llywodraeth mai pleidleisio dros aros yn yr
Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U.', ond hefyd, 'Chi sydd i
benderfynu. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eich penderfyniad.'.
2. Yn credu mai
modd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 fyddai orau, ond yn
penderfynu, os na ellir cael cytundeb rhwng y Deyras Unedig a'r Undeb
Ewropeaidd, na ddylid ymestyn proses Erthygl 50, gan y byddai hyn yn parhau'r
ansicrwydd ac yn bradychu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig,
a bleidleisiodd yn bendant dros adael yr UE.
3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn y tebygolrwydd y byddwn yn gadael
yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, a chanolbwyntio ein
holl ymdrechion erbyn hyn ar baratoi ar gyfer y canlyniad hwn.
Gwelliant 2 – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r
ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl, er mwyn galluogi dewis
democrataidd rhwng cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer ymadael â'r UE ac aros yn
yr UE , ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu ei chynlluniau i gynnal
pleidlais o'r fath ar unwaith.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.49
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NNDM6985 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y
cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU.
2.
Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar
ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg.
3. Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd
camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y
dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd
orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig
gyfan.
Cyd-gyflwynwyr:
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1
– Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn dwyn i gof fod Llywodraeth y DU, cyn y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi
anfon llyfryn at bob aelwyd yn y Deyrnas Unedig, yn datgan, o dan y pennawd
'Penderfyniad Unwaith Mewn Cenhedlaeth', 'Cred y Llywodraeth mai pleidleisio
dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U.', ond hefyd,
'Chi sydd i benderfynu. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eich
penderfyniad.'.
2.
Yn credu mai modd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 fyddai
orau, ond yn penderfynu, os na ellir cael cytundeb rhwng y Deyras Unedig a'r
Undeb Ewropeaidd, na ddylid ymestyn proses Erthygl 50, gan y byddai hyn yn
parhau'r ansicrwydd ac yn bradychu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas
Unedig, a bleidleisiodd yn bendant dros adael yr UE.
3.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn y tebygolrwydd y
byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, a
chanolbwyntio ein holl ymdrechion erbyn hyn ar baratoi ar gyfer y canlyniad
hwn.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
45 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2
– Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu mai'r ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl, er mwyn galluogi
dewis democrataidd rhwng cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer ymadael â'r UE ac
aros yn yr UE , ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu ei chynlluniau i
gynnal pleidlais o'r fath ar unwaith.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NNDM6985 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad
i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y
DU.
2. Yn cytuno y byddai canlyniad
o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol
annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg.
3. Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd
camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y
dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd
orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig
gyfan.
Cyd-gyflwynwyr:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
13 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.