Cyfarfodydd

P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chytunodd i gau'r ddeiseb o ystyried cynlluniau'r Pwyllgor hwnnw i gynnal ymchwiliad i sepsis yn nhymor yr hydref. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 19/06/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau Ynghylch Deiseb P-05-866 Ymgyrch Gyhoeddus - Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i rannu manylion am y ddeiseb a'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma, a gofyn a oes gan y Pwyllgor unrhyw gynlluniau i edrych ar y pwnc hwn.

 


Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaeth Gwaed Cymru i rannu'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn :

·         pa ystyriaeth a roddwyd i rinweddau penodol ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus mewn perthynas â sepsis;

·         am wybodaeth am yr amserlen ar gyfer datblygu cofrestr sepsis yng Nghymru; ac

·         am ei farn ynghylch galwad y deisebwyr am strategaeth ar gyfer goroeswyr a theuluoedd sy'n dioddef yn sgil sepsis.

  • ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn iddynt:

·         am fanylion eu gwaith parhaus mewn perthynas â sepsis, gan gynnwys datblygu cofrestr sepsis; a'r  

·         potensial ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o sepsis ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd.