Cyfarfodydd

SICM(5)21 - Rheoliadau Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Buddion mewn Nwyddau neu Wasanaethau etc.) (Diwygio etc.) (Ymadael â'r DU) 2019

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 SICM(5)21 - Rheoliadau Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Buddion mewn Nwyddau neu Wasanaethau etc.) (Diwygio etc.) (Ymadael â'r DU) 2019

CLA(5)-08-19 – Papur 21 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

CLA(5)-08-19 – Papur 22 – Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wnaed gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Cynulliad.

CLA(5)- 08-19 – Papur 23 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)- 08-19 – Papur 24 – Rheoliadau

CLA(5)- 08-19 – Papur 25 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)- 08-19 – Papur 26 - Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a nododd, fel y dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei lythyr, nad oedd y Gweinidog o blaid cyflwyno cynnig i gynnal dadl.