Cyfarfodydd
Adreoddiad Etifeddiaeth - Comisiwn y Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/06/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Cofnodion:
Roedd adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-16 wedi
cael ei gytuno a'i gyhoeddi yn gynharach eleni. Nododd y Comisiynwyr yr
adroddiad, gan gytuno y byddai'n fan cychwyn defnyddiol ar gyfer eu
hystyriaethau hwy, yn enwedig mewn perthynas â datblygu Strategaeth y Comisiwn.
Cyfarfod: 25/01/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Adroddiad Etifeddiaeth y Comisiwn:
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Cyflwynodd Craig Stephenson yr adroddiad, gan amlinellu mai ei nod oedd
tynnu sylw at gyflawniadau’r Comisiwn presennol, a sicrhau, ar yr un pryd, ei
fod yn gadael etifeddiaeth.
Trafododd y Bwrdd Rheoli yr argymhellion ac a oedd materion, a roddwyd ar
waith gan y Comisiwn presennol, y dylid gofyn i Gomisiwn y Pumed Cynulliad eu
cymeradwyo. Nodwyd, fodd bynnag, y byddai'r Comisiwn newydd hefyd yn cael
argymhellion trwy adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes.
Camau i’w cymryd: Penaethiaid gwasanaeth i adolygu eu
cyfraniadau eu hunain i’r adroddiad er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni ei nodau,
yn gytbwys o ran ei gynnwys a lefel y manylder, bod enghreifftiau o ddyblygu yn
cael eu dileu, a bod meysydd argymhelliad eraill, fel targedau cynaliadwyedd,
yn cael eu hystyried. Cynnwys diffiniad clir o bwrpas yn y cyflwyniad.
Penaethiaid i roi gwybod i Craig Stephenson am unrhyw newidiadau erbyn dydd
Gwener 30 Ionawr.
Cyfarfod: 16/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
5 Adroddiad etiffeddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd papur pump gan Claire Clancy, a gwahoddodd y Comisiwn i adolygu argymhellion Comisiwn y Trydydd Cynulliad, ac ystyried pa rai oedd yn flaenoriaethau y dylid eu hadlewyrchu yn ei strategaeth ddrafft ar gyfer 2011-16.
Bu’r Comisiwn yn trafod mynediad y cyhoedd i’r Senedd, a’r modd y gellid datblygu perthynas rhwng yr Aelodau a’r cyhoedd yn y Senedd, ond gan gynnal diogelwch a phreifatrwydd i’r Aelodau er mwyn iddynt gyflawni eu rôl. Cytunodd y Comisiwn y dylid ystyried lleoliad y siop ac opsiynau ar gyfer darparu wi-fi, a fyddai’n hwylus i’r Aelodau ac i’r cyhoedd, yn y Senedd.
Nododd y Comisiwn yr argymhellion yn ymwneud â llif gwybodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Ymchwil, a’r diddordeb roedd y Bwrdd Taliadau wedi ei ddangos yn y mater hwn. Teimlai’r Comisiwn fod hyn yn rhwystr i’r Aelodau.
Cytunodd y Comisiwn y dylid ystyried cynaliadwyedd ystad y Cynulliad ac y dylid adolygu hyn bob blwyddyn.
Gofynnodd y Comisiwn am adolygiad o’r prosiect UNO, a chytunodd y dylai’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect ategu datblygiad ei strategaeth.
Cytunodd y Comisiwn y byddai’n ystyried ei strategaeth ddrafft yn ei gyfarfod nesaf ar 30 Mehefin, ac y dylid cyfleu i swyddogion yn y cyfamser unrhyw faterion pellach i’w cynnwys.