Cyfarfodydd
NDM6967 Dadl Plaid Cymru - Grant Byw’n Annibynnol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Grant Byw’n Annibynnol Cymru
NDM6967
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru bob amser wedi neilltuo’r swm llawn o gyllid a drosglwyddwyd
ar gyfer y Gronfa Byw’n Annibynnol at y diben hwnnw.
2. Yn ymrwymo
Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r rhai sy’n derbyn y cyllid a’r awdurdodau
lleol i sicrhau bod bwriadau Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn parhau i gael eu
cyflawni yng Nghymru.
Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu
Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau
annibynnol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
17.02
NDM6967
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.