Cyfarfodydd
NNDM6958 - Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 30/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 30/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar NNDM6958 - Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin
NNDM6958 Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y
cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau
diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig.
2.
Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru
ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal
sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael
Erthygl 50.
3.
Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i
gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn
undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y
bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais
gyhoeddus.
4.
Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r
gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn.
Cyd-gyflwynwyr
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod safbwynt
bresennol Llywodraeth y DU o ran ymadael â'r UE yn negyddu canlyniad y
refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol
ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais
ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i dynnu ei safbwynt yn ôl o ran yr hyn â nodir yn
"Diogelu Dyfodol Cymru," a ysgrifennwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, gan
fod hyn hefyd yn anwybyddu ewyllys pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn
bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cymeradwyo
ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, heb unrhyw estyniad i Erthygl 50, ac
o dan delerau Sefydliad Masnach y byd.
4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle i adfer sofraniaeth
genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn ein bod yn gadael yr UE ar
delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, ac i ganolbwyntio pob
ymdrech, bellach, ar baratoi at y canlyniad hwn.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i hwyluso dirprwyaeth seneddol i gael ei hanfon ar ran Cynulliad
Cenedlaethol Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr seneddol a chynrychiolwyr y
llywodraeth yn San Steffan i gyflwyno'r achos dros Gymru fel y nodir yn y
cynnig hwn.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn condemnio
Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y cytundeb i
ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau diffuant â'r
gweinyddiaethau datganoledig.
2. Yn pwysleisio
unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac y dylai
Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal sefyllfa o ymadael
heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael Erthygl 50.
3. Yn credu os, fel yr
ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i gefnogi cynnig
gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, yna'r
unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y bobl; ac yn credu y
dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus.
4. Yn credu y dylai
Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau
datganoledig am y materion hyn.
Cyd-gyflwynwyr
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod
safbwynt bresennol Llywodraeth y DU o ran ymadael â'r UE yn negyddu canlyniad y
refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol
ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais
ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i dynnu ei safbwynt yn ôl o ran yr hyn â nodir yn
"Diogelu Dyfodol Cymru," a ysgrifennwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, gan
fod hyn hefyd yn anwybyddu ewyllys pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn
bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cymeradwyo
ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, heb unrhyw estyniad i Erthygl 50, ac
o dan delerau Sefydliad Masnach y byd.
4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle i adfer sofraniaeth
genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn ein bod yn gadael yr UE ar
delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, ac i ganolbwyntio pob
ymdrech, bellach, ar baratoi at y canlyniad hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
47 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Tynnwyd
gwelliant 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig.
NNDM6958 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y
cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau
diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig.
2.
Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru
ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal
sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael
Erthygl 50.
3.
Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i
gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn
undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y
bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais
gyhoeddus.
4.
Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r
gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn.
Cyd-gyflwynwyr
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.