Cyfarfodydd
NDM6954 - Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru
NDM6954 – Rebecca
Evans (Gwŷr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn siomedig yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith
rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti
y seilwaith strategol yng Nghymru.
2.
Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y
Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion
ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n
gwasanaethu Cymru.
3.
Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU
sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams.
4.
Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba
mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn
ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer
bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws
Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn
llawn.
Y Rhwydwaith Rheilffyrdd
yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi
Datganiad
Ysgrifenedig yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd
Llywodraeth y DU
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwellaint 1 – Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 1.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwellaint 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 1, dileu
'siomedig yn y' a rhoi yn ei le 'condemnio’r'.
Gwellaint 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Mewnosod ar ddiwedd
pwynt 1:
', gan gydnabod bod
Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y DU yn ddifrifol, o ran buddsoddi mewn seilwaith
trafnidiaeth.'
Gwellaint 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Mewnosod ar ddiwedd
pwynt 2:
'ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion, gyda phwyslais ar gysylltu'r
gogledd a'r de drwy ail-agor rheilffyrdd y gorllewin.'
Gwellaint 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 3.
Gwellaint 6 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl
'UE' ym mhwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn gresynu at
berfformiad gwael diweddar gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys oedi mynych a
chanslo teithiau, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ers dod yn gyfrifol am
wasanaethau ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau.
Yn gresynu at yr
oedi wrth ail-sefydlu gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Cymru a
Lerpwl.
Yn nodi'r rôl y
gall Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei chwarae wrth helpu i lunio
gweledigaeth ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru.
Yn nodi maint y cyfraniad
y bydd bargeinion dinas a bargeinion twf Llywodraeth y DU yn eu gwneud.
Yn annog
Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid
perthnasol er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran gwella gwasanaethau rheilffyrdd
yng Nghymru.
Gwellaint 7 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd
datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo
i dulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus.
Gwellaint 8 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ffocws
o'r newydd gan Lywodraeth Cymru ar weithio tuag at ailagor rheilffordd Gaerwen
i Amlwch ar draws Ynys Môn yng ngoleuni cyhoeddiadau economaidd diweddar sy'n
peri pryder.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio.
NDM6954 – Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn siomedig yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith
rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y
seilwaith strategol yng Nghymru.
2.
Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y
Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion
ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n
gwasanaethu Cymru.
3.
Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU
sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams.
4.
Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba
mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn
ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer
bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws
Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn
llawn.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwellaint 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 1.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
3 |
31 |
43 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwellaint 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 1, dileu 'siomedig yn y' a rhoi yn ei le 'condemnio’r'.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
13 |
43 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwellaint 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:
', gan gydnabod bod Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y DU yn ddifrifol, o
ran buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
4 |
36 |
44 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwellaint 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Mewnosod
ar ddiwedd pwynt 2:
'ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion, gyda phwyslais ar
gysylltu'r gogledd a'r de drwy ail-agor rheilffyrdd y gorllewin.'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
9 |
27 |
43 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gwellaint 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu
pwynt 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
3 |
31 |
43 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Gwellaint 6 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu
popeth ar ôl 'UE' ym mhwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn
gresynu at berfformiad gwael diweddar gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys
oedi mynych a chanslo teithiau, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ers dod yn
gyfrifol am wasanaethau ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau.
Yn
gresynu at yr oedi wrth ail-sefydlu gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng
Cymru a Lerpwl.
Yn
nodi'r rôl y gall Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei chwarae wrth helpu i
lunio gweledigaeth ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru.
Yn
nodi maint y cyfraniad y bydd bargeinion dinas a bargeinion twf Llywodraeth y
DU yn eu gwneud.
Yn
annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid
perthnasol er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran gwella gwasanaethau rheilffyrdd
yng Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
31 |
43 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Gwellaint 7 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth
gyhoeddus.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
4 |
1 |
44 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Gwellaint 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ffocws o'r newydd gan Lywodraeth Cymru ar weithio tuag at
ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch ar draws Ynys Môn yng ngoleuni
cyhoeddiadau economaidd diweddar sy'n peri pryder.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
3 |
27 |
43 |
Gwrthodwyd
gwelliant 8.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6954 – Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn condemnio’r yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith
rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y
seilwaith strategol yng Nghymru.
2.
Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y
Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion
ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n
gwasanaethu Cymru.
3.
Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU
sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams.
4.
Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba
mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn
ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer
bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws
Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn
llawn.
5.
Yn nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i ddulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
9 |
44 |
Derbyniwyd
y cynnig fel y’i diwygiwyd.