Cyfarfodydd
NDM6949 Dadl Plaid Cymru - Carchardai a Chyfiawnder Troseddol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 30/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 30/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Carchardai a Chyfiawnder Troseddol
NDM6949
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad
gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil
Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am
ganfyddiadau’r adroddiad mai yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng
ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur
ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith
ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu
problemau helaeth o ran diogelwch a lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys
graddau cynyddol o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio, trais a
hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o
droseddwyr ifanc o Gymru yn treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr,
a bod y carchar yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl
ifanc yn y dyfodol.
5. Yn galw am:
a) datganoli
cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru;
b) diystyru adeiladu
rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
c) ailuno'r gwasanaeth
prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
d) ffocws ar ddulliau
cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i
or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
e) rhoi diwedd ar
ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau
neilltuol;
f) yr hawl i
garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Canolfan
Llywodraethiant Cymru - Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau
(Saesneg yn unig)
Canolfan
Llywodraethiant Cymru - Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau (Saesneg yn
unig)
Pwyllgor
Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin: Tystiolaeth Atodol - Dr Robert Jones,
Canolfan Llywodraethiant Cymru, Medi 2018 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad
Canolfan Llywodraethiant Cymru, Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a
thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig.
2. Yn nodi ymhellach
bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y
Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018, yn wladolion tramor, a'r mwyaf
cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon a Rwmania.
3. Yn credu:
a) y dylid ariannu
gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai;
b) y dylai pob
carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan swyddogion y Goron fod yn atebol i
Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau preifat;
c) y dylai Llywodraeth
Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wyrdroi preifateiddio'r system
garchardai;
d) y dylai troseddwyr
o dramor gael eu halltudio i fwrw eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y
dylai troseddwyr o'r fath gael eu gwahardd rhag dychwelyd i'r DU;
e) y dylai carchardai newydd
gael eu hadeiladu fel y bo angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a
gaiff eu dyfarnu'n euog o droseddau sy'n dwyn cosb o garchar.
Bwletin
Ystadegau Rheoli Troseddwyr, Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ffocws gan y
Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau
aildroseddu.
[Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn croesawu gwaith y
Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn
â’r cyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu
rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth
prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau
cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i
or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
d) rhoi diwedd ar
ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau
neilltuol; ac
e) yr hawl i
garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6949
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant
Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai
yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau
llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a
lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan
Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a
lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio
sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn
treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar wedi cael
effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol.
5. Yn galw am:
a) datganoli cyfiawnder troseddol yn llwyr i Gymru;
b) diystyru adeiladu rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar
unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r
gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
c) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi
diwedd ar breifateiddio rhannol;
d) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau
nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu
byr;
e) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc
a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol;
f) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau
Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
1 |
41 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru,
Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor
Dethol Materion Cymreig.
2. Yn nodi ymhellach bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth
carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018,
yn wladolion tramor, a'r mwyaf cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon
a Rwmania.
3. Yn credu:
a) y dylid ariannu gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a
rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai;
b) y dylai pob carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan
swyddogion y Goron fod yn atebol i Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau
preifat;
c) y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y
DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai;
d) y dylai troseddwyr o dramor gael eu halltudio i fwrw
eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y dylai troseddwyr o'r fath gael eu
gwahardd rhag dychwelyd i'r DU;
e) y dylai carchardai newydd gael eu hadeiladu fel y bo
angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a gaiff eu dyfarnu'n euog o
droseddau sy'n dwyn cosb o garchar.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
48 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar
wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am blismona
a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw
safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn
i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd
ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad
ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a
menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac
e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
22 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6949 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant
Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai
yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau
llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd
ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan
Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a
lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio
sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn
treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar wedi cael
effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol.
5. Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng
Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am
blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar
unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r
gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi
diwedd ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau
nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu
byr;
d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc
a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac
e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau
Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
1 |
14 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.