Cyfarfodydd
Darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/05/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Gwasanaeth Darlledu yn y Dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Rhoddodd y Comisiynwyr
gymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r model a argymhellir ar gyfer darparu gwasanaeth
darlledu i’r Senedd yn y dyfodol, drwy fodel contract Darlledwr y Senedd tebyg
am debyg, am dymor o bum mlynedd.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Rheolau’r Swyddog Cyfrifyddu ar ddefnyddio adnoddau Comisiwn y Senedd – diweddariad ar gyfer y Chweched Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
fersiwn wedi’i diweddaru o Reolau a Chanllawiau’r Swyddog Cyfrifyddu ar
ddefnyddio Adnoddau’r Senedd a fydd yn gymwys o ddechrau'r Chweched Senedd.
Cyhoeddir y Rheolau hyn o dan awdurdod Cod Ymddygiad Aelodau o'r Senedd, ac
adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
- Cyfyngedig 13
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y rheolau diogelwch TGCh wedi'u
diweddaru (a elwir yn Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh) ar gyfer Aelodau.
Mae'r rheolau yn nodi'r amodau y mae'n rhaid eu cymhwyso i ddefnyddio system
TGCh y Senedd i ddiogelu system TGCh y Senedd rhag defnydd amhriodol, a all
wneud y Senedd yn agored i risgiau sy'n cynnwys colli neu ddwyn gwybodaeth,
seiberymosodiadau a methiannau gwasanaeth.
Trafododd y Comisiynwyr rai agweddau ar y rheolau, y
mae'n ofynnol i'r holl ddefnyddwyr eu derbyn cyn cael mynediad at System TGCh y
Senedd. Dywedodd un y byddai wedi bod yn ddefnyddiol gallu
cymharu manylion y ddogfen newydd yn uniongyrchol â'r fersiwn bresennol. Roedd y diweddariad yn
adlewyrchu amodau seiberddiogelwch esblygol, seilwaith TGCh y Senedd, gofynion
busnes ac arferion da ar gyfer yr amgylchedd gwaith.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y fersiwn wedi'i diweddaru o’r Amodau Diogelwch a
Defnyddio TGCh a fyddai’n gymwys i’r defnydd gan Aelodau o'r Senedd a'u staff o
system TGCh y Senedd o ddechrau'r Chweched Senedd.
Cyfarfod: 05/03/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Newidiadau TGCh yn y dyfodol - adnewyddu TGCh y Siambr a’r system ffonau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiwn gynlluniau i ddiweddaru’r dechnoleg yn y Siambr. Trafododd bapur a
oedd yn nodi’r risgiau a godwyd mewn perthynas â chyflwyno prosiect i adnewyddu
TGCh yn y Siambr. Roedd yn rhoi manylion i’r Comisiwn am bryderon ynghylch
perfformiad y cyflenwyr caledwedd gan gynnig ffordd ymlaen.
Cytunodd y
Comisiynwyr i friffio grwpiau’r pleidiau yr wythnos nesaf.
Trafododd y
Comisiynwyr y risgiau a nodwyd a’r angen i sicrhau bod gan y Comisiwn
berthnasau da â’r cyflenwyr sy’n cefnogi ein systemau critigol. Cytunodd y
Comisiwn i ohirio gweithredu’r prosiect tan 2016.
Rhoddodd
Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect teleffoni. Cadarnhaodd y
canlynol:
- bydd y newid i’r system ffôn
newydd ym Mae Caerdydd yn digwydd dros benwythnos 23-25 Mai;
- bydd setiau llaw newydd yn
cael eu gosod ar y penwythnos hwnnw i bob defnyddiwr;
- bydd y rhif 0300 newydd yn
disodli rhifau 029 20 yn llwyr;
- bydd rhifau 029 20 a’r rhifau
estyniad mewnol presennol yn dod i ben. Bydd galwyr allanol yn cael neges
yn eu cyfeirio at y switsfwrdd;
- y rhifau estyniad mewnol fydd
pedwar digid olaf y rhif 0300;
- Bydd Rheolwyr Cyfrif yn dod i
siarad â phob Aelod dros y mis nesaf;
- Y Comisiwn, ac nid Aelodau
unigol, fydd yn talu am gostau argraffu angenrheidiol yn sgil newid
manylion cyswllt.
Croesawodd
y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf gan bwysleisio bod angen atgoffa’n
rheolaidd am y newid.
Cyfarfod: 08/05/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Y wybodaeth diweddaraf am y Gwasanaethau TGCh ar gyfer y dyfodol
Adroddiad
llafar
Cofnodion:
Yn eu cyfarfod ar 26 Mawrth, roedd y Comisiynwyr wedi
cytuno’n unfrydol i drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros wasanaethau TGCh o Atos i
Gomisiwn y Cynulliad ar 7 Ebrill 2014.
Cadarnhaodd Dave Tosh fod y trosglwyddo wedi digwydd ac
wedi mynd rhagddo’n llyfn. Nid oedd problemau arwyddocaol wedi codi. Roedd
staff yn y tîm TGCh yn gweithio i ddatrys problemau a oedd wedi cronni ond nid
oedd dim ohonynt wedi effeithio ar y rhai a oedd yn defnyddio’r gwasanaethau.
Cytunodd y Comisiynwyr fod y trosglwyddo wedi mynd rhagddo’n ddidrafferth, ac
nad oeddent wedi cael dim adborth negyddol gan Aelodau na’u staff.
Roedd cyflogeion TGCh newydd wedi dechrau yn eu swyddi,
ac yn ymgyfarwyddo ag amgylchedd gwaith y Cynulliad ac yn datblygu eu
harbenigedd ar hyn o bryd. Roedd y Comisiynwyr yn cytuno ei bod yn hanfodol bod
cyflogeion newydd yn deall gwaith yr Aelodau yn drylwyr. Dylid gwneud
ymdrechion i’w cynorthwyo i ddatblygu’r wybodaeth hon yn gyflym i alluogi
iddynt ymateb i ymholiadau a phroblemau mewn modd priodol a phrydlon.
Llongyfarchodd yr holl Gomisiynwyr aelodau’r tîm TGCh ar eu gwaith caled
yn cwblhau’n llwyddiannus y prosiect cymhleth hwn, a fydd yn gwella’r
gwasanaeth i’r Aelodau, yn sicrhau arbedion ariannol ac yn galluogi’r Cynulliad
i arwain y ffordd o ran defnyddio TGCh.
Cyfarfod: 26/03/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adroddiad y Prosiect Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol
Cyfarfod: 06/03/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Trosglwyddo Gwasanaethau TCCh - Diweddariad am barodrwydd
papur
3
Cofnodion:
Ym mis Rhagfyr
2013 gofynnodd y Comisiynwyr am adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y Prosiect
Gwasanaethau TGCh ar gyfer y Dyfodol, gan gynnwys yr asesiad o'r parodrwydd i
drosglwyddo i ddarparu gwasanaethau TGCh yn fewnol.
Bu'r
comisiynwyr yn trafod cynnydd y prosiect sylweddol hwn a'r gwaith paratoi a
oedd wedi cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn trosglwyddo mewn
modd sydd mor effeithlon a llyfn ag y bo modd. Mae'r prosiect yn parhau i fod
ar y trywydd iawn ac mae disgwyl i Gomisiwn y Cynulliad fod yn gyfrifol am
ddarpariaeth TGCh y Cynulliad ym mis Ebrill, dri mis cyn dyddiad terfyn y
contract.
Mae ymdrechion
yn cael eu gwneud i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad, eu staff cymorth a
gweithwyr y Comisiwn yn ymwybodol o'r gwaith paratoi manwl a wnaed. Gofynnodd y
Comisiynwyr bod negeseuon yn cael eu hanfon at bawb sy'n gweithio i'r Cynulliad
ac mae cynrychiolwyr o TGCh yn siarad i bob grŵp plaid i
sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt gan y newid yn ymwybodol o'r hyn sy'n
digwydd.
Cafodd
swyddogion eu llongyfarch am eu gwaith hyd yma ar y prosiect cymhleth hwn.
Byddai'r penderfyniad ynghylch pa mor barod ydym i drosglwyddo'r gwasanaethau
ym mis Ebrill yn cael ei wneud gan y Comisiwn ddiwedd mis Mawrth.
Cyfarfod: 30/01/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad y Prosiect Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol
papur
6 ac atodiad
Cofnodion:
Ym mis Rhagfyr
2013 gofynnodd y Comisiynwyr am adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y Prosiect
Gwasanaethau TGCh ar gyfer y Dyfodol, gan gynnwys yr asesiad o’r parodrwydd i
drosglwyddo i ddarparu gwasanaethau TGCh yn fewnol. Roedd y prosiect yn parhau
i fynd rhagddo fel y dylai, a gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd pwysig, gan
gynnwys recriwtio staff allweddol a throsglwyddo gwybodaeth gan Atos.
Canmolwyd y
swyddogion am reoli’r prosiect cymhleth hwn yn ofalus ac am eu llwyddiannau hyd
yma. Byddai’r Comisiynwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i lywio
eu penderfyniad ynghylch amseriad y trosglwyddo.
Cyfarfod: 05/12/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad i'r Comisiwn ar gynnydd y Prosiect i Ddarparu Gwasanaethau TGCh yn y dyfodol
papur 3
Cofnodion:
Erbyn mis Gorffennaf 2014 bydd gwasanaethau TGCh yn y
Cynulliad yn cael eu darparu’n fewnol. Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth
ddiweddaraf am y Prosiect Pontio Gwasanaethau TGCh a’r gweithgareddau niferus
sydd i’w cwblhau o hyd.
Mae staff yn gwneud cynnydd da yn y meysydd gwaith
amrywiol ac maent wedi cwblhau nifer o dasgau pwysig, gan gynnwys cytuno ar y
cynllun ymadael a’r Memorandwm Gwasanaethau Prosiect, cwblhau cam cyntaf y
broses o drosglwyddo gwybodaeth a recriwtio penaethiaid newydd ar y Gwasanaeth.
Hyd yma, bu’r paratoadau ar gyfer y cyfnod pontio yn rhedeg yn llyfn ac maent
wedi’u rheoli’n effeithiol. Ni ddangosodd y ddau archwiliad sicrwydd allanol a
gynhaliwyd gan KPMG unrhyw broblemau o bwys, a rhoddwyd statws ‘gwyrdd’ i’r
Comisiwn o ran rheoli risg.
Roedd prosesau ar gyfer monitro’r prosiect a’r gyllideb
yn wythnosol wedi caniatáu i risgiau gael eu rheoli’n ofalus. Roedd y Bwrdd
Prosiect a’r Bwrdd Buddsoddi wedi cynnal asesiad misol er mwyn llywio’r asesiad
o’r parodrwydd ar gyfer mynd ‘yn fyw’ ar yr amser priodol.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn cael bwletinau misol
ar y cynnydd a wneir, o fis Ionawr ymlaen. Cytunwyd hefyd y byddai’r Comisiwn
yn rhan o’r broses o wneud penderfyniad ar gyfer mynd ‘yn fyw’.
Cyfarfod: 18/07/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad ar Gynnydd a Pherfformiad TGCh
papur 5 ac atodiad
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad TGCh fel
'dangosfwrdd' i roi trosolwg o gynnydd a pherfformiad mewn nifer o feysydd
pwysig o ran darparu gwasanaethau TGCh.
Roedd y meysydd o ddiddordeb
arbennig yn cynnwys:
·
Strategaeth
TGCh
·
Cynllunio ar
gyfer darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol
·
Perfformiad
gwasanaethau TGCh
Cytunwyd y byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cael
ei darparu yn yr un fformat. Cytunodd y Comisiynwyr na fyddai'r papur yn cael
ei gyhoeddi.
Cyfarfod: 16/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad ar gynnydd a pherfformiad TGCh Mai 2013
papur 5
Cofnodion:
Cadarnhawyd
bod y gwaith i drosglwyddo gwasanaethau TGCh yn llwyddiannus fel rhan o’r
Prosiect Gwasanaeth TGCh y Dyfodol ar y trywydd iawn. Roedd Cynllun Rheoli
Gadael manwl ar waith yn casglu’r gweithgareddau sydd angen eu cwblhau cyn i
gontract Atos ddod i ben. Roedd swyddogion wedi bod yn gwneud trefniadau ar
gyfer sicrwydd allanol ar gyfer y gwaith i’w wneud gan KPMG. Byddai hyn yn
cynnwys ‘prawf iechyd’ prosiect, adolygiad rheoli prosiectau manwl ac asesiad
rheoli risg.
Roedd y
gwaith o ddisodli’r contract Blackberry presennol gyda darpariaeth fwy hyblyg
yn mynd rhagddo, a disgwylir i’r gwaith hwnnw gyflawni arbedion sylweddol yn
ogystal â gwella gwasanaethau i Aelodau.
Roedd
opsiynau i wella sain yn y Siambr yn cael eu profi, gan geisio datrys
anawsterau presennol. Trafododd Comisiynwyr i ba raddau y dylid defnyddio
dyfeisiau yn yr oriel gyhoeddus. Cytunwyd y byddai’r rhai sy’n ymweld â’r oriel
gyhoeddus yn cael defnyddio dyfeisiau symudol yn y dyfodol, cyhyd â nad oeddent
yn achosi unrhyw ymyrraeth.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i sicrhau bod staff a’r cyhoedd yn ymwybodol o’r newid i bolisi ynghylch defnyddio dyfeisiau symudol yn yr oriel gyhoeddus, yn amodol ar rai cyfyngiadau.
Cyfarfod: 28/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad ar gynnydd a pherfformiad TGCh
Cofnodion:
Gwnaethpwyd cynnydd mewn nifer o feysydd ers y
tro diwethaf i’r wybodaeth ddiweddaraf gael ei rhoi i’r Comisiwn ddiwedd mis
Ionawr 2013. Roedd y rhain yn cynnwys:
- bod y rheolwr trawsnewid newydd wedi dechrau ei swydd. Bydd yn gyfrifol
am reoli’r Cynllun Ymadael a fydd yn sylfaen i’r broses o adael y cytundeb ag
Atos;
- bod rhai Aelodau wedi bod yn treialu defnyddio mod.gov ar gyfer papurau
Pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn;
- bod mynediad at Outlook drwy’r we wedi cael ei ehangu i gynnwys ystod
ehangach o ddyfeisiau, sy’n fwy cyfleus i ddefnyddwyr;
- bod nifer o sesiynau rheoli gwybodaeth wedi cael eu trefnu ar gyfer
Aelodau a’u staff i godi ymwybyddiaeth ynghylch eu dyletswyddau mewn perthynas
â Diogelu Data.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yng
nghyfarfod perfformiad nesaf y Comisiwn.
Cyfarfod: 24/01/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad ar Gynnydd a Pherfformiad TGCh
Cyfarfod: 03/12/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth TGCh ar gyfer y dyfodol
Cyfarfod: 29/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Darparu mynediad di-wifr i adnoddau rhwydwaith y Cynulliad
Cyfarfod: 12/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol
Cyfarfod: 05/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Strategaeth Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol – Cyflwyniad gan Atos
Papur 3
Cofnodion:
Bydd Cytundeb Merlin, ar gyfer
darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad, yn dod i ben yn 2014. Mae'n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu
Llywodraeth Cymru ac Atos o'i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh
i'r Cynulliad yn y dyfodol erbyn mis Ebrill 2013. Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i
asesu dau opsiwn: ymestyn cytundeb Merlin; neu symud at ddarpariaeth fewnol
gymysg.
Roedd cynrychiolwyr o Atos yn y
cyfarfod i roi gwybodaeth i'r Comisiynwyr ar ddarpariaeth TGCh arfaethedig yn y
dyfodol.
Cytunwyd na fyddai'r papur yn
cael ei gyhoeddi oherwydd natur fasnachol ei gynnwys.
Gwnaeth y Comisiynwyr gais am ragor o gyfarfodydd i allu trafod darpariaeth gwasanaethau TGCh yn y dyfodol yn fanylach. Cynhelir y cyfarfodydd ar 12 Tachwedd a 3 Rhagfyr.
Cyfarfod: 22/10/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Gwasanaethau TGCh yn y dyfodol
· Papur 1A
· Papur 1B
Cofnodion:
Bydd Cytundeb Merlin, ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i’r Cynulliad,
yn dod i ben yn 2014. Mae’n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru
ac Atos o’i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh i’r Cynulliad yn y
dyfodol erbyn mis Ebrill 2013.
Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu dau opsiwn: ymestyn
cytundeb Merlin; neu symud at ddarpariaeth fewnol gymysg.
Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth fwy manwl er mwyn llywio’u penderfyniad
ynghylch gwasanaethau TGCh i’r Cynulliad yn y dyfodol. Cytunwyd y dylid gwahodd
cynrychiolwyr o Atos i’r cyfarfod ar 5 Tachwedd er mwyn i’r Comisiynwyr roi
ystyriaeth lawn i’r opsiwn o ymestyn cytundeb Merlin.
Cam i’w
gymryd: Y Comisiynwyr i
wahodd cynrychiolwyr o Atos i roi cyflwyniad yn eu cyfarfod ar 5 Tachwedd. Y
penderfyniad ynghylch gwasanaethau TGCh yn y dyfodol i’w wneud mewn cyfarfod
ychwanegol ar 12 Tachwedd.
Cyfarfod: 27/09/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Strategaeth ddrafft ar gyfer gwasanaethau TGCh yn y dyfodol
Papur 3
Cofnodion:
Bydd Cytundeb Merlin, ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad, yn dod i ben yn 2014. Mae'n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru ac Atos o'i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad yn y dyfodol erbyn mis Ebrill 2013.
Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu dau opsiwn: ymestyn
cytundeb Merlin; neu symud at ddarpariaeth fewnol gymysg.
Ystyriodd y Pwyllgor ei strategaeth ddrafft ar gyfer gwasanaethau TGCh yn y dyfodol a chytuno i ddod i benderfyniad o ran darpariaeth gwasanaethau TGCh yn y dyfodol ym mis Tachwedd 2012.
Bydd y Comisiynwyr yn trafod hyn ymhellach mewn cyfarfod ychwanegol ym mis Hydref.
Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael
ei gyhoeddi oherwydd natur fasnachol ei gynnwys.
Cam i'w gymryd: Swyddogion i ddarparu costau manylach.
Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Rhaglen Gwasanaethau TGCh y dyfodol
Papur 5
Cofnodion:
Mae’n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru
ac Atos o’i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol erbyn
30 Ebrill 2013.
Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu’r ddau
opsiwn a ganlyn:
- Opsiwn 1: Ymestyn
contract Merlin - yn amodol ar drefniadau newydd sy’n ateb gofynion y
Cynulliad o ran cost, perfformiad a hyblygrwydd.
- Opsiwn 2: Symud i
ddarpariaeth gymysg.
Cytunwyd y byddai’r swyddogion yn parhau i ddatblygu’r opsiynau hyn er mwyn galluogi’r Comisiwn i wneud penderfyniad ar ddarpariaeth yn y dyfodol yn nhymor yr hydref.
Cyfarfod: 08/03/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau i'r gwasanaeth TGCh
Dogfennau ategol:
- AC(4)2012(2) Papur 2 - y wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau i'r gwasanaeth TGCh, Eitem 2 PDF 702 KB Gweld fel HTML (2/1) 20 KB
Cofnodion:
Ers
cyfarfod diwethaf y Comisiwn, cymerwyd nifer o gamau i ymateb i bryderon yr
Aelodau am rai agweddau ar y gwasanaeth TGCh. Cytunwyd ag Atos ar gynllun i
wella’r gwasanaeth, cynhaliwyd cyfarfod rhwng uwch swyddogion Atos a
Llywodraeth Cymru, a rhwng Aelodau’r Cynulliad a swyddogion y Comisiwn i nodi’r
problemau sy’n parhau yn y gwasanaeth a’n hanghenion tebygol yn y dyfodol.
Defnyddiwyd
adnoddau ychwanegol i sicrhau bod modd rhoi’r cynllun gweithredu ar waith. Fel
rhan o’r cynllun, bydd peiriannydd yn ymweld â phob swyddfa etholaethol i
ymdrin ag unrhyw broblemau a bydd rhagor o gymorth ar gael o ran rheoli
prosiectau a pharatoi cynlluniau technegol er mwyn medru cyflwyno prosiectau
gwella’n gynt a chaiff rheolau diogelwch
a dulliau o ddarparu gwasanaethau eu hadolygu i’w haddasu’n well ar gyfer
anghenion.
Cytunodd y Comisiynwyr fod y gwelliannau i’w gweld yn datrys y
problemau TGCh ac roeddent yn falch bod camau pendant wedi’u cymryd yn y
cyswllt hwn. Nodwyd bod trafodaethau ar y gweill ag Atos i archwilio i ba
raddau y dylai Atos rannu’r gost ychwanegol sy’n deillio o’r camau hyn.
Cam i’w gymryd: swyddogion i ddosbarthu’r papur yn uniongyrchol i Aelodau’r Cynulliad.
Cyfarfod: 24/11/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(6) Papur 4 - Darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol
Cofnodion:
Ar hyn o bryd, caiff gwasanaethau TGCh y Cynulliad eu darparu gan Atos fel
rhan o’r contract Merlin, a fydd yn dod i ben yn 2014. Nid oes gan y Cynulliad
gytundeb ag Atos. Yn hytrach, darperir y gwasanaethau yn unol â Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan y Comisiwn a Gweinidogion Cymru pan wahanwyd
y ddau gorff yn 2007. Yn dilyn prosiect UNO, a greodd blatfform TGCh
annibynnol, nid yw systemau’r Cynulliad bellach wedi’u hintegreiddio â rhai
Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi mwy o ryddid i’r Cynulliad o ran dewis
darpariaethau TGCh yn y dyfodol.
Mae’r Comisiwn yn cefnogi’r weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol, a’r ystod o fodelau y gellir eu defnyddio i ddarparu’r gwasanaethau hyn. Cytunwyd y byddai swyddogion yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau a gytunwyd.