Cyfarfodydd
Cynaliadwyedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Cyflwynodd y Comisiynydd gyda’r portffolio datblygu cynaliadwy yr adroddiad
ar berfformiad cynaliadwyedd ystâd y Senedd a gweithrediadau dros y flwyddyn
ddiwethaf.
Roedd yr adroddiad yn amlygu cyflawniadau amgylcheddol allweddol,
perfformiad yn erbyn targedau gan gynnwys ail flwyddyn y Strategaeth Carbon
Niwtral, y defnydd o gyfleustodau, a chrynodeb o’r gwelliannau arfaethedig ar
gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Trafododd y Comisiynwyr fesurau arbed ynni ac awgrymwyd y gallai fod yn
ddefnyddiol casglu data ychwanegol mewn perthynas â theithio mewn cerbydau
trydan.
Cytunodd y Comisiynwyr
i gyhoeddi'r adroddiad yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau, ac i
ddarparu'r adroddiad i'r Pwyllgor Cyllid yn unol â’i argymhelliad sy’n ymwneud
â gwybodaeth am arbed ynni.
Cyfarfod: 30/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad ynghylch cynaliadwyedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am y materion a’r mentrau cynaliadwyedd presennol.
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2021-22
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad ar berfformiad ystâd y Senedd a’i gweithrediadau yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf o ran cynaliadwyedd, yn amodol ar fân newidiadau.
Mae’r adroddiad yn
amlygu cyflawniadau amgylcheddol allweddol; perfformiad yn erbyn targedau, gan
gynnwys blwyddyn gyntaf y Strategaeth Carbon Niwtral; y defnydd o gyfleustodau;
a chrynodeb o’r gwelliannau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i
ddod.
Trafododd y
Comisiynwyr gamau i ddechrau newid y derminoleg a ddefnyddir wrth gyfeirio at
allyriadau isel a dim allyriadau, yn enwedig yng nghyd-destun technoleg newydd,
gan nodi y gallai'r datblygiadau hyn gael eu hystyried mewn perthynas â
chaffael hefyd.
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Trefniant Aberthu Cyflog ar gyfer Cerbydau Trydan
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth am gynlluniau i gyflwyno Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer cerbydau
trydan, a nodwyd y byddai'r Bwrdd Taliadau yn cael gwybod am argaeledd y
cynllun er mwyn iddo ystyried unrhyw faterion yn ymwneud â chyflog a lwfansau’r
Aelodau.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Strategaeth Carbon Niwtral 2021-2030
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr strategaeth arfaethedig yn
amlinellu gweithgareddau, buddsoddiad a newid ymddygiad a fyddai’n
angenrheidiol i'r sefydliad gyrraedd niwtralrwydd carbon net erbyn 2030.
Gofynnodd y Comisiynwyr gwestiynau yn ymwneud â theithio,
trafnidiaeth, a mannau gwyrdd ar yr ystâd, gan awgrymu y gallai cynnwys
cymunedau lleol fod yn ddull cadarnhaol.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar y Strategaeth Carbon Niwtral, ac y dylid ei chyhoeddi.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Cynaliadwyedd - Adroddiad Blynyddol 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Cytunodd y Comisiynwyr i’r Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2019-20
gael ei gyhoeddi.
Amlygodd yr adroddiad
ar berfformiad cynaliadwyedd ystâd a gweithrediadau'r Senedd dros y flwyddyn
ddiwethaf gyflawniadau amgylcheddol allweddol o ran perfformiad yn erbyn
targedau, defnyddio cyfleustodau, ôl troed carbon y sefydliad a'r defnydd o
adnoddau cyfyngedig. At hynny, bu’r Comisiynwyr yn ystyried y gwelliannau a
wnaed i'r ystâd yn ogystal â'r dulliau gweithredu, a chytunwyd ar welliannau a
gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Strategaeth lleihau carbon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
Cytunodd y Comisiynwyr ar gyfres o egwyddorion, targedau
a chamau gweithredu a fydd yn sail i’r strategaeth lleihau carbon newydd o 2021
i 2030.
Trafododd y Comisiynwyr
y camau gweithredu a'r argymhellion, a nodi wrth i'r strategaeth gael ei
chwblhau y dylid canolbwyntio mwy ar newid diwylliant ac ymddygiadau.
Gwnaethant gytuno hefyd i gydnabod, fel Corff Corfforaethol, bod argyfwng
hinsawdd yn bodoli.
Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
- Cyfyngedig 28
Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Cytunodd
y Comisiynwyr ar Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2016-17. Roedd yn cynnwys ail
flwyddyn cynllun cynaliadwyedd pum mlynedd y Comisiwn, ac roedd y Comisiynwyr
yn gefnogol o'r hyn a gyflawnwyd hyd yma.
Cyfarfod: 22/06/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Adroddiad Amgylcheddol blynyddol drafft 2016-17
Papur 3 –
Adroddiad drafft Amgylcheddol 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Croesawodd y Bwrdd Nerys Evans i'r
cyfarfod i gyflwyno drafft y degfed Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol. Dangosodd
yr adroddiad duedd parhaus wrth i'r Cynulliad leihau ei effaith ar yr amgylchedd
â chynnydd da o ran cyrraedd y targedau ar gyfer 2021 a osodir yn y cynllun
cynaliadwyedd pum-mlynedd cyfredol.
Roedd y ffocws yn y cyfnod dan sylw
ar fonitro a dadansoddi'n well i nodi cyfleoedd i wneud arbedion ar sail
effeithlonrwydd. Roedd meincnodi yn rhan allweddol o'r broses a byddai gwaith
yn cael ei barhau yn 2017-18 i feincnodi gyda'r seneddau datganoledig eraill.
Mae'n debygol y byddai'r Cynulliad yn symud i gael tystysgrif amgylcheddol ISO
14001.
Roedd y Bwrdd yn cydnabod ei bod yn
angenrheidiol cydbwyso'r gost ar gyfer cyrraedd y targedau lleihad gyda'r
gwaith o wneud gwelliannau i gynaliadwyedd ac, ar hyn o bryd, roedd rhaglen
waith y Gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau yn canolbwyntio ar wella drwy
ddiweddaru neu adnewyddu offer hŷn ag offer mwy effeithlon wrth iddynt
dynnu at ddiwedd eu hoes; meincnodi; rheoli a chynnal a chadw'n
effeithiol.
Gwnaeth y Bwrdd Rheoli sylwadau ar y
drafft a gwnaed argymhellion, gan gynnwys:
·
adolygu sut y mae'r Cynulliad yn
cymharu â sefydliadau tebyg eraill, er enghraifft Llywodraeth Cymru, mewn
perthynas â'r defnydd o gerbydau; ac
·
egluro'r cynnydd mewn defnydd o
ddŵr ar gyfer y cyfnod dan sylw i fod yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer
y staff ac ymwelwyr.
Diolchodd y Bwrdd i Matthew Jones am ei waith yn paratoi'r adroddiad, a gâi
ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 17 Gorffennaf.
Cyfarfod: 29/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Strategaeth Rheoli Carbon - Casgliad a Chynlluniau’r Dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’n prif gyflawniadau mewn
cysylltiad â’r targedau corfforaethol ac a arweiniodd at y Strategaeth Rheoli
Carbon. Croesawodd y Comisiynwyr y manylion am y gostyngiadau sylweddol mewn
allyriadau carbon a gyflwynwyd drwy’r strategaeth hon. Mae’r Comisiwn yn
bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod drwy’r Trywydd
Lleihau Ynni y cytunwyd arno y llynedd.
Canmolodd y
Comisiynwyr yr adroddiad a’r gwaith a wnaed i gyflawni llwyddiant o’r fath, gan
dynnu sylw’n benodol at y wobr ddiweddar ar gyfer Sefydliad Sector Cyhoeddus
Mwyaf Cynaliadwy mewn Llywodraeth ledled y DU. Cytunwyd y dylid cyhoeddi’r
adroddiad ar dudalen cynaliadwyedd gwefan y Comisiwn.
Cyfarfod: 19/01/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Rheoli Carbon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Derbyniodd y Bwrdd
adroddiad terfynol y cynllun pum mlynedd yn cefnogi'r Strategaeth Rheoli Carbon
a gymeradwywyd yn 2009. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r cynnydd a wnaed
yn 2013-14, ynghyd â chyflawniadau cyffredinol mewn perthynas â'r targedau
corfforaethol. Byddai hwn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Comisiwn ar 29
Ionawr er mwyn iddynt nodi cyflawniadau perfformiad allweddol a'r strategaeth a
gymeradwywyd ar gyfer y pum mlynedd canlynol.
Argymhellodd y Bwrdd Rheoli
fân welliannau i'r papur er mwyn helpu i osod y cyd-destun a chydnabod
cyflawniadau heb ganmol gormod.
Cam Gweithredu : cynnwys paragraff i ofyn
am fandad gan Gomisiynwyr i'r Cynulliad hyrwyddo ei lwyddiant ar reoli carbon
yn allanol a gwahodd sefydliadau i mewn i weld sut y cafodd ei wneud.
Cyfarfod: 26/06/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Map llwybrau lleihau carbon - cyflwyniad
Cyfarfod: 05/12/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adroddiad blynyddol ar y strategaeth rheoli carbon
papur 2
Cofnodion:
Roedd y papur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r
Comisiynwyr am y cynnydd a wnaed ers i’r Comisiwn fabwysiadu ei strategaeth
rheoli carbon a’i gynllun gweithredu ar gyfer dod yn Gynulliad carbon niwtral
yn 2009.
Nododd y Comisiynwyr bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud
heb fuddsoddi swm sylweddol o arian, a oedd yn galonogol iawn o gofio’r
digwyddiadau allanol a oedd wedi effeithio ar y perfformiad o ran carbon (y
refferendwm a’r etholiad), a’r tywydd gwael nad oedd modd ei ragweld.
Er gwaetha’r
ffaith nad oedd y Comisiwn wedi cyrraedd y targed o ran defnyddio llai o ynni
yn 2012-13, roedd lleihad cronnol o 22% wedi’i gyflawni. Fodd bynnag, roedd y
Comisiynwyr yn cydnabod ei bod yn annhebygol y byddai’r nod uchelgeisiol o
leihau allyriadau ynni o 40% erbyn 2015 yn cael ei gyflawni heb fuddsoddi i
wella dycnwch ac effeithlonrwydd, yn sgîl tywydd sy’n anodd ei ragweld, costau
cynyddol ynni ac anwadalrwydd posibl y cyflenwad ar gyfer y dyfodol.
Nododd y Comisiynwyr ei bod yn bwysig sicrhau y caiff dull gweithredu
cytbwys ei fabwysiadu rhwng sicrhau bod ein hadeiladau mor effeithlon ag sy’n
bosibl a sicrhau ar yr un pryd bod yr amgylchedd gweithio yn gyfforddus i bawb.
Mynegwyd rhywfaint o ansicrwydd hefyd am fewnosod carbon fel opsiwn ar gyfer y
dyfodol. Awgrymodd y Comisiynwyr y byddai Aelodau’r Cynulliad yn croesawu cael
cyngor a chefnogaeth ar wella cynaliadwyedd yn eu swyddfeydd etholaethol, er
enghraifft, gwybodaeth am wobr y Ddraig Werdd. Roedd astudiaeth
dichonoldeb ar y gweill i nodi’r opsiynau ar gyfer y dyfodol. Nododd y
Comisiynwyr ei bod yn debygol y byddai angen gwario arian er mwyn cyrraedd y
targedau cynaliadwyedd, ond nodwyd y byddai’n rhaid darparu hyn o fewn y
cyllidebau a gynlluniwyd. Cytunwyd y byddai’r Bwrdd Buddsoddi a’r Comisiwn yn
ystyried y cynigion o ran buddsoddi, a nodwyd gan yr astudiaeth dichonoldeb, yn
y flwyddyn newydd.
Cyfarfod: 29/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad blynyddol ar y strategaeth rheoli carbon
Cyfarfod: 24/11/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Rheoli Carbon
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(6) Papur 3 - y wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth rheoli carbon, Eitem 3 PDF 194 KB Gweld fel HTML (3/1) 62 KB
Cofnodion:
Ym mis Tachwedd 2009, cytunodd y Comisiwn blaenorol ar strategaeth Rheoli
Carbon. Roedd hyn yn cynnwys uchelgais i leihau allyriadau blynyddol 8 y cant o
ran ynni a 3 y cant o ran teithio ar fusnes, ac i fod yn garbon niwtral erbyn
2015.
Roedd y Comisiwn yn croesawu’r gostyngiad o 11.1 y cant a gafwyd mewn
allyriadau ynni yn ystod blwyddyn 2 ar draws ystad y Cynulliad, sy’n gyfwerth
ag arbediad o 182 tunnell o garbon a thua £50,000 mewn costau. Hyd yma, gwelwyd
gostyngiad o 19 y cant mewn allyriadau gyda tharged o 40 y cant erbyn 2015.
Nododd y Comisiynwyr y cynnydd da a wnaed hyd yma ac ailddatganwyd eu
hymrwymiad i’r strategaeth Rheoli Carbon er mwyn cynnal statws y Cynulliad fel
corff seneddol blaenllaw ym maes cynaliadwyedd. Cytunwyd mewn egwyddor i fwrw
ymlaen â phrosiect peilot i osod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel sydd wedi’u dylunio’n well, ac sy’n
lled-awtomatig i alluogi awyru naturiol effeithlon.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i lunio amcangyfrif manwl o
gost y prosiect peilot i’r Bwrdd Rheoli ei gymeradwyo.