Cyfarfodydd

Cynaliadwyedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynydd gyda’r portffolio datblygu cynaliadwy yr adroddiad ar berfformiad cynaliadwyedd ystâd y Senedd a gweithrediadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd yr adroddiad yn amlygu cyflawniadau amgylcheddol allweddol, perfformiad yn erbyn targedau gan gynnwys ail flwyddyn y Strategaeth Carbon Niwtral, y defnydd o gyfleustodau, a chrynodeb o’r gwelliannau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. 

Trafododd y Comisiynwyr fesurau arbed ynni ac awgrymwyd y gallai fod yn ddefnyddiol casglu data ychwanegol mewn perthynas â theithio mewn cerbydau trydan.

Cytunodd y Comisiynwyr i gyhoeddi'r adroddiad yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau, ac i ddarparu'r adroddiad i'r Pwyllgor Cyllid yn unol â’i argymhelliad sy’n ymwneud â gwybodaeth am arbed ynni.


Cyfarfod: 30/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Diweddariad ynghylch cynaliadwyedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y materion a’r mentrau cynaliadwyedd presennol.


Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2021-22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9
  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad ar berfformiad ystâd y Senedd a’i gweithrediadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ran cynaliadwyedd, yn amodol ar fân newidiadau.

Mae’r adroddiad yn amlygu cyflawniadau amgylcheddol allweddol; perfformiad yn erbyn targedau, gan gynnwys blwyddyn gyntaf y Strategaeth Carbon Niwtral; y defnydd o gyfleustodau; a chrynodeb o’r gwelliannau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. 

Trafododd y Comisiynwyr gamau i ddechrau newid y derminoleg a ddefnyddir wrth gyfeirio at allyriadau isel a dim allyriadau, yn enwedig yng nghyd-destun technoleg newydd, gan nodi y gallai'r datblygiadau hyn gael eu hystyried mewn perthynas â chaffael hefyd.


Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Trefniant Aberthu Cyflog ar gyfer Cerbydau Trydan

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth am gynlluniau i gyflwyno Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer cerbydau trydan, a nodwyd y byddai'r Bwrdd Taliadau yn cael gwybod am argaeledd y cynllun er mwyn iddo ystyried unrhyw faterion yn ymwneud â chyflog a lwfansau’r Aelodau.


Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Strategaeth Carbon Niwtral 2021-2030

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 16
  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr strategaeth arfaethedig yn amlinellu gweithgareddau, buddsoddiad a newid ymddygiad a fyddai’n angenrheidiol i'r sefydliad gyrraedd niwtralrwydd carbon net erbyn 2030.

Gofynnodd y Comisiynwyr gwestiynau yn ymwneud â theithio, trafnidiaeth, a mannau gwyrdd ar yr ystâd, gan awgrymu y gallai cynnwys cymunedau lleol fod yn ddull cadarnhaol.

Cytunodd y Comisiynwyr ar y Strategaeth Carbon Niwtral, ac y dylid ei chyhoeddi.


Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Cynaliadwyedd - Adroddiad Blynyddol 2019-20

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr i’r Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2019-20 gael ei gyhoeddi.

Amlygodd yr adroddiad ar berfformiad cynaliadwyedd ystâd a gweithrediadau'r Senedd dros y flwyddyn ddiwethaf gyflawniadau amgylcheddol allweddol o ran perfformiad yn erbyn targedau, defnyddio cyfleustodau, ôl troed carbon y sefydliad a'r defnydd o adnoddau cyfyngedig. At hynny, bu’r Comisiynwyr yn ystyried y gwelliannau a wnaed i'r ystâd yn ogystal â'r dulliau gweithredu, a chytunwyd ar welliannau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.


Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Strategaeth lleihau carbon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23
  • Cyfyngedig 24

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar gyfres o egwyddorion, targedau a chamau gweithredu a fydd yn sail i’r strategaeth lleihau carbon newydd o 2021 i 2030.

Trafododd y Comisiynwyr y camau gweithredu a'r argymhellion, a nodi wrth i'r strategaeth gael ei chwblhau y dylid canolbwyntio mwy ar newid diwylliant ac ymddygiadau. Gwnaethant gytuno hefyd i gydnabod, fel Corff Corfforaethol, bod argyfwng hinsawdd yn bodoli.


Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 27
  • Cyfyngedig 28

Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2016-17

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2016-17. Roedd yn cynnwys ail flwyddyn cynllun cynaliadwyedd pum mlynedd y Comisiwn, ac roedd y Comisiynwyr yn gefnogol o'r hyn a gyflawnwyd hyd yma.


Cyfarfod: 22/06/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Adroddiad Amgylcheddol blynyddol drafft 2016-17

Papur 3 – Adroddiad drafft Amgylcheddol 2016-17

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 34

Cofnodion:

Croesawodd y Bwrdd Nerys Evans i'r cyfarfod i gyflwyno drafft y degfed Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol. Dangosodd yr adroddiad duedd parhaus wrth i'r Cynulliad leihau ei effaith ar yr amgylchedd â chynnydd da o ran cyrraedd y targedau ar gyfer 2021 a osodir yn y cynllun cynaliadwyedd pum-mlynedd cyfredol.

Roedd y ffocws yn y cyfnod dan sylw ar fonitro a dadansoddi'n well i nodi cyfleoedd i wneud arbedion ar sail effeithlonrwydd. Roedd meincnodi yn rhan allweddol o'r broses a byddai gwaith yn cael ei barhau yn 2017-18 i feincnodi gyda'r seneddau datganoledig eraill. Mae'n debygol y byddai'r Cynulliad yn symud i gael tystysgrif amgylcheddol ISO 14001.

Roedd y Bwrdd yn cydnabod ei bod yn angenrheidiol cydbwyso'r gost ar gyfer cyrraedd y targedau lleihad gyda'r gwaith o wneud gwelliannau i gynaliadwyedd ac, ar hyn o bryd, roedd rhaglen waith y Gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau yn canolbwyntio ar wella drwy ddiweddaru neu adnewyddu offer hŷn ag offer mwy effeithlon wrth iddynt dynnu at ddiwedd eu hoes; meincnodi; rheoli a chynnal a chadw'n effeithiol. 

Gwnaeth y Bwrdd Rheoli sylwadau ar y drafft a gwnaed argymhellion, gan gynnwys:

·              adolygu sut y mae'r Cynulliad yn cymharu â sefydliadau tebyg eraill, er enghraifft Llywodraeth Cymru, mewn perthynas â'r defnydd o gerbydau; ac

·              egluro'r cynnydd mewn defnydd o ddŵr ar gyfer y cyfnod dan sylw i fod yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer y staff ac ymwelwyr.

Diolchodd y Bwrdd i Matthew Jones am ei waith yn paratoi'r adroddiad, a gâi ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 17 Gorffennaf.

 


Cyfarfod: 29/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Strategaeth Rheoli Carbon - Casgliad a Chynlluniau’r Dyfodol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 37

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’n prif gyflawniadau mewn cysylltiad â’r targedau corfforaethol ac a arweiniodd at y Strategaeth Rheoli Carbon. Croesawodd y Comisiynwyr y manylion am y gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau carbon a gyflwynwyd drwy’r strategaeth hon. Mae’r Comisiwn yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod drwy’r Trywydd Lleihau Ynni y cytunwyd arno y llynedd. 

 

Canmolodd y Comisiynwyr yr adroddiad a’r gwaith a wnaed i gyflawni llwyddiant o’r fath, gan dynnu sylw’n benodol at y wobr ddiweddar ar gyfer Sefydliad Sector Cyhoeddus Mwyaf Cynaliadwy mewn Llywodraeth ledled y DU. Cytunwyd y dylid cyhoeddi’r adroddiad ar dudalen cynaliadwyedd gwefan y Comisiwn.

 


Cyfarfod: 19/01/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)

Adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Rheoli Carbon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 40

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad terfynol y cynllun pum mlynedd yn cefnogi'r Strategaeth Rheoli Carbon a gymeradwywyd yn 2009. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn 2013-14, ynghyd â chyflawniadau cyffredinol mewn perthynas â'r targedau corfforaethol. Byddai hwn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Comisiwn ar 29 Ionawr er mwyn iddynt nodi cyflawniadau perfformiad allweddol a'r strategaeth a gymeradwywyd ar gyfer y pum mlynedd canlynol.

Argymhellodd y Bwrdd Rheoli fân welliannau i'r papur er mwyn helpu i osod y cyd-destun a chydnabod cyflawniadau heb ganmol gormod.

Cam Gweithredu : cynnwys paragraff i ofyn am fandad gan Gomisiynwyr i'r Cynulliad hyrwyddo ei lwyddiant ar reoli carbon yn allanol a gwahodd sefydliadau i mewn i weld sut y cafodd ei wneud.

 


Cyfarfod: 26/06/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Map llwybrau lleihau carbon - cyflwyniad


Cyfarfod: 05/12/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Adroddiad blynyddol ar y strategaeth rheoli carbon

papur 2

Cofnodion:

Roedd y papur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y cynnydd a wnaed ers i’r Comisiwn fabwysiadu ei strategaeth rheoli carbon a’i gynllun gweithredu ar gyfer dod yn Gynulliad carbon niwtral yn 2009.

Nododd y Comisiynwyr bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud heb fuddsoddi swm sylweddol o arian, a oedd yn galonogol iawn o gofio’r digwyddiadau allanol a oedd wedi effeithio ar y perfformiad o ran carbon (y refferendwm a’r etholiad), a’r tywydd gwael nad oedd modd ei ragweld.

Er gwaetha’r ffaith nad oedd y Comisiwn wedi cyrraedd y targed o ran defnyddio llai o ynni yn 2012-13, roedd lleihad cronnol o 22% wedi’i gyflawni. Fodd bynnag, roedd y Comisiynwyr yn cydnabod ei bod yn annhebygol y byddai’r nod uchelgeisiol o leihau allyriadau ynni o 40% erbyn 2015 yn cael ei gyflawni heb fuddsoddi i wella dycnwch ac effeithlonrwydd, yn sgîl tywydd sy’n anodd ei ragweld, costau cynyddol ynni ac anwadalrwydd posibl y cyflenwad ar gyfer y dyfodol.

Nododd y Comisiynwyr ei bod yn bwysig sicrhau y caiff dull gweithredu cytbwys ei fabwysiadu rhwng sicrhau bod ein hadeiladau mor effeithlon ag sy’n bosibl a sicrhau ar yr un pryd bod yr amgylchedd gweithio yn gyfforddus i bawb. Mynegwyd rhywfaint o ansicrwydd hefyd am fewnosod carbon fel opsiwn ar gyfer y dyfodol. Awgrymodd y Comisiynwyr y byddai Aelodau’r Cynulliad yn croesawu cael cyngor a chefnogaeth ar wella cynaliadwyedd yn eu swyddfeydd etholaethol, er enghraifft, gwybodaeth am wobr y Ddraig Werdd. Roedd astudiaeth dichonoldeb ar y gweill i nodi’r opsiynau ar gyfer y dyfodol. Nododd y Comisiynwyr ei bod yn debygol y byddai angen gwario arian er mwyn cyrraedd y targedau cynaliadwyedd, ond nodwyd y byddai’n rhaid darparu hyn o fewn y cyllidebau a gynlluniwyd. Cytunwyd y byddai’r Bwrdd Buddsoddi a’r Comisiwn yn ystyried y cynigion o ran buddsoddi, a nodwyd gan yr astudiaeth dichonoldeb, yn y flwyddyn newydd.


Cyfarfod: 29/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad blynyddol ar y strategaeth rheoli carbon


Cyfarfod: 24/11/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

3 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Rheoli Carbon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ym mis Tachwedd 2009, cytunodd y Comisiwn blaenorol ar strategaeth Rheoli Carbon. Roedd hyn yn cynnwys uchelgais i leihau allyriadau blynyddol 8 y cant o ran ynni a 3 y cant o ran teithio ar fusnes, ac i fod yn garbon niwtral erbyn 2015.

 

Roedd y Comisiwn yn croesawu’r gostyngiad o 11.1 y cant a gafwyd mewn allyriadau ynni yn ystod blwyddyn 2 ar draws ystad y Cynulliad, sy’n gyfwerth ag arbediad o 182 tunnell o garbon a thua £50,000 mewn costau. Hyd yma, gwelwyd gostyngiad o 19 y cant mewn allyriadau gyda tharged o 40 y cant erbyn 2015.

 

Nododd y Comisiynwyr y cynnydd da a wnaed hyd yma ac ailddatganwyd eu hymrwymiad i’r strategaeth Rheoli Carbon er mwyn cynnal statws y Cynulliad fel corff seneddol blaenllaw ym maes cynaliadwyedd. Cytunwyd mewn egwyddor i fwrw ymlaen â phrosiect peilot i osod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel sydd wedi’u dylunio’n well, ac sy’n lled-awtomatig i alluogi awyru naturiol effeithlon.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i lunio amcangyfrif manwl o gost y prosiect peilot i’r Bwrdd Rheoli ei gymeradwyo.