Cyfarfodydd
NDM6918 Dadl Plaid Cymru - Brexit Heb Gytundeb
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Brexit Heb Gytundeb
NDM6918
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw
amgylchiadau.
2.
Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn
cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael
yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y
ffaith bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn negyddu canlyniad y
refferendwm yn sylweddol, drwy gadw’r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i
bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu hefyd o unrhyw lais
ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn cymeradwyo
ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac o dan delerau Sefydliad Masnach
y Byd, er mwyn bodloni dymuniadau pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn
bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adferiad sofraniaeth
genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Draft
Agreement on the withdrawal of the United Kingdom of Great Britain and Northern
Ireland from the European Union and the European Atomic Energy Community
(Saesneg yn unig)
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio rhoi
canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar
waith.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
17.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6918 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthod ymadawiad
â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.
2. Yn galw ar y Prif
Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull
ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd
heb gytundeb.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.