Cyfarfodydd

NDM6918 Dadl Plaid Cymru - Brexit Heb Gytundeb

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl Plaid Cymru - Brexit Heb Gytundeb

NDM6918 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.

 

2. Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. 

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, drwy gadw’r DU  yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu hefyd o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn cymeradwyo ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac o dan delerau Sefydliad Masnach y Byd, er mwyn bodloni dymuniadau pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adferiad sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Draft Agreement on the withdrawal of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland from the European Union and the European Atomic Energy Community (Saesneg yn unig)

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio rhoi canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar waith.

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6918 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.

2. Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.