Cyfarfodydd

Cyllideb Comisiwn y Senedd 2020-21

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/05/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Atodol 2020-21

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gynnig y dylid gosod Cyllideb Atodol, i leihau cyllideb 2020-21 y Comisiwn o £61.411 miliwn i £59.575 miliwn.

Diben hynny oedd adlewyrchu'r cyhoeddiad gan Drysorlys Ei Mawrhydi bod gweithredu Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 – Prydlesi i gael ei ohirio am 12 mis tan 1 Ebrill 2021. Nid yw hyn yn newid gofyniad arian parod 2020-21 y Comisiwn o £56.075 miliwn.

Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Memorandwm Esboniadol (Atodiad un), i adlewyrchu'r cyhoeddiad gan Drysorlys Ei Mawrhydi, a nodwyd y newid yn yr amserlen graffu sy'n gysylltiedig ag amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru.

 

Byddai'r Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod yn y ffordd arferol.

 


Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2020-21 - Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8
  • Cyfyngedig 9
  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21 drwy'r broses graffu. Derbyniwyd addasiadau a wnaed i ddarparu gwybodaeth gliriach am gostau’n ymwneud â'r Comisiynydd Safonau. Cytunwyd hefyd y dylid gwneud addasiad pellach i adlewyrchu  amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac a ddefnyddir yn y Penderfyniad.

Nododd y Comisiynwyr yr amserlen ar gyfer gwaith yn ymwneud â’r gyllideb yn ystod mis Tachwedd 2019, a chytunwyd ar eu hymateb i'r argymhellion a godwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Cyllid a'u Cyllideb Derfynol ar gyfer 2020-21, cyhyd ag y caiff yr addasiad uchod ei adlewyrchu yn y ddau.


Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Ddrafft y Comisiwn 20-21

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13
  • Cyfyngedig 14
  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr eu cyllideb ddrafft arfaethedig ar gyfer 2020-21 ymhellach wrth baratoi ar gyfer ei gosod ar 1 Hydref fan bellaf.

 

Gwnaethant drafod newidiadau yn y gyllideb weithredol a chyffredinol ynghyd â blaenoriaethau arian prosiect. Gwnaethant nodi hefyd y diwygiadau sy'n ofynnol i gyfrif am y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 newydd – Prydlesi a llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

 

Trafododd y Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2020-21, a’i chymeradwyo, yn amodol ar rai mân addasiadau i’r naratif.

 


Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Strategaeth Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2020-21

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 19
  • Cyfyngedig 20
  • Cyfyngedig 21
  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

Parhaodd y Comisiynwyr i ystyried eu cynigion ar gyfer  strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.

 

Y ddau brif faes a drafodwyd oedd gofyniad cyffredinol y gyllideb ar gyfer 2020-21; gan gynnwys effaith cyllideb atodol gyntaf 2019-20 ar gostau pensiwn; a blaenoriaethau buddsoddi newydd y Comisiwn ar gyfer 2020-21. Trafodwyd nifer o themâu gan gynnwys archifo, y wefan a gweithgareddau ymgysylltu.

 

Caiff cynigion ar gyfer y gyllideb eu gosod, yn unol â’r Rheolau Sefydlog, ym mis Medi.

 


Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Strategaeth y Gyllideb a Chyllideb y Comisiwn 2020-21

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25
  • Cyfyngedig 26
  • Cyfyngedig 27

Cofnodion:

Dechreuodd y Comisiynwyr drafodaethau cychwynnol ynghylch eu dull gweithredu ar gyfer strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.

 

Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer strategaeth y gyllideb a gofyniad y gyllideb gyffredinol ar gyfer 2020-21 a'r ddwy flynedd ganlynol. Yn benodol, roedd y drafodaeth hon yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer blwyddyn olaf y Cynulliad hwn. Nododd y Comisiynwyr y byddai angen trafodaeth bellach ar y cynnydd yng Nghyfraniadau Pensiwn y Cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

 

Cytunwyd hefyd ar ymateb i gais y Pwyllgor Cyllid am farn ar ganllawiau cyllidebol.

 

Bydd cyllideb '20 -21 y Comisiwn yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog ym mis Medi.