Cyfarfodydd

SL(5)291 - Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 15)

Rheoliadau Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019

NDM6939 – Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10/12/2018. 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.34

NDM6939 – Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10/12/2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 07/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

SL(5)291 - Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.