Cyfarfodydd
NDM6898 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Rhwyster Carthffosydd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Rhwystrau Carthffosydd
NDM6898
Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Water
UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.
2. Yn gresynu at y
ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr
achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a
hancesi gwlyb i lawr y toiled.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y tu hwnt
i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm.
4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn
cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf
newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr
becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na
ellir eu fflysio.
Water
UK - Wipes in Sewer Blockage Study (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar
gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i
doiledau flocio.
Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella
ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau
traul
er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.
Gwelliant
3 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd
o ddefnyddiau traul.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6898 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Water UK
ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.
2. Yn gresynu at y ffaith y
ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir
llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb
i lawr y toiled.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ehangu'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y tu hwnt i fwyd a diod
i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i
ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail
rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant
dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion
hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
59 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr
er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae
defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr
Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau
traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o
ddefnyddio trethi newydd i leihau’r ddefnydd o defnyddiau traul.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
11 |
4 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6898 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Water UK
ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.
2. Yn gresynu at y ffaith y
ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir
llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb
i lawr y toiled.
3. Yn nodi gwaith Llywodraeth
Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r
afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i
ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail
rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant
dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion
hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella
ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y
system garthffosiaeth.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o ddefnyddiau
traul.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
4 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.