Cyfarfodydd
Estyn Adroddiad Blynyddol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 – 2020 a COVID-19: trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiynau blaenorol.
Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 - 2020 (i gynnwys materion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg)
Meilyr Rowlands,
Prif Arolygydd EM – Estyn
Claire Morgan,
Cyfarwyddwr Strategol - Estyn
Jassa Scott,
Cyfarwyddwr Strategol – Estyn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad
Blynyddol, ac ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19.
2.2 Oherwydd diffyg amser, cwtogwyd y cwestiwn ar
flynyddoedd cynnar, gwahoddwyd Estyn i ddarparu ymateb ysgrifenedig mwy llawn,
pe dymunent.
Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
4 Llythyr gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ei ymddeoliad
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 17/09/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/09/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/09/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2018-19
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 20/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
6 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2018-19
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn - trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn gydag Estyn.
Cyfarfod: 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn
Meilyr Rowlands,
Prif Arolygydd EM – Estyn
Jassa Scott,
Cyfarwyddwr Strategol - Estyn
Claire Morgan,
Cyfarwyddwr Strategol – Estyn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
- CYPE(5)-09-20 - Papur 1, Eitem 2 PDF 124 KB Gweld fel HTML (2/2) 4 KB
Cofnodion:
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar adroddiad blynyddol Estyn.
Cyfarfod: 19/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18
NDM6969 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1.
Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr
2018.
2.
Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a
hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.
3.
Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn
gynnydd ar y llynedd.
4.
Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion
uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at
ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei
Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion
uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn
gwneud digon o gynnydd.
2. Yn gresynu nad
yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u
galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.
3. Yn gresynu at y
gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a
4 oed.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran
consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol
a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer
consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.
Estyn-canllawiau
dilynol ar gyfer arolygwyr a chonsortia rhanbarthol – Medi 2017
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymroddiad
parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi
safonau a chyrhaeddiad disgyblion.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi adroddiad
Donaldson ar Estyn, Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn a
gyhoeddwyd yn Mehefin 2018, ac sydd heb dderbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd
yma.
Arolygiaeth
Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn - Graham Donaldson
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi adroddiad
Prifysgol Caerdydd 'Cut to the Bone?' sy’n cadarnhau bod gwariant ysgol yn
2017-18 £324 y disgybl yn is mewn termau real na’r ffigwr cyfatebol yn 2009-10.
Prifysgol
Caerdydd - Cut to the Bone? An analysis of Local Government finances in Wales,
2009-10 to 2017-18 and the outlook to 2023-24 (Saesneg yn unig)
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi llythyr
agored ASCL Cymru a’i sylwadau fod yna argyfwng cyllid difrifol mewn ysgolion
yng Nghymru sydd yn cael effaith andwyol ar bobl ifanc Cymru.
Llythyr
agored gan ASCL Cymru at y Gweinidog Addysg (Saesneg yn unig)
Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r
pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6969 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi Adroddiad
Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar
gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.
2. Croesawu bod y
“newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau
ar ei raddfa cyflym”.
3. Nodi bod
safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd
ar y llynedd.
4. Nodi, er bod
safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod
amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at
ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei
Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion
uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn
gwneud digon o gynnydd.
2. Yn gresynu nad
yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u
galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.
3. Yn gresynu at y
gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a
4 oed.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran
consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol
a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer
consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
1 |
24 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymroddiad
parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi
safonau a chyrhaeddiad disgyblion.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
1 |
0 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi adroddiad
Donaldson ar Estyn, Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn a
gyhoeddwyd yn Mehefin 2018, ac sydd heb dderbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd
yma.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
24 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi adroddiad
Prifysgol Caerdydd 'Cut to the Bone?' sy’n cadarnhau bod gwariant ysgol yn 2017-18
£324 y disgybl yn is mewn termau real na’r ffigwr cyfatebol yn 2009-10.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
25 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi llythyr
agored ASCL Cymru a’i sylwadau fod yna argyfwng cyllid difrifol mewn ysgolion
yng Nghymru sydd yn cael effaith andwyol ar bobl ifanc Cymru
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
25 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r
pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
25 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6969 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi Adroddiad
Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar
gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.
2. Croesawu bod y
“newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau
ar ei raddfa cyflym”.
3. Nodi bod
safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd
ar y llynedd.
4. Nodi, er bod
safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod
amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.
5. Yn nodi
ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o
godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
11 |
6 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd
Cyfarfod: 30/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 30/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 30/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
2 Llythyr gan y Gweinidog Addysg yn dilyn y sesiwn graffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2017-18
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 10/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
4 Llythyr at Lywodraeth Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18: gwaith dilynol
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 06/12/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/12/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/12/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
3 Adroddiad Blynyddol Estyn 2017 - 2018
Meilyr
Rowlands, Prif Arolygydd EM
Claire
Morgan, Cyfarwyddwr Strategol
Jassa
Scott, Cyfarwyddwr Strategol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
- CYPE(5)-35-18 - Papur 2, Eitem 3 PDF 99 KB Gweld fel HTML (3/2) 4 KB
Cofnodion:
3.1 Holodd
yr Aelodau Estyn ynglŷn â’i Adroddiad Blynyddol.
3.2
Cytunodd Estyn i ddarparu nodyn ar unrhyw arfer gorau a welir mewn lleoliadau
Dechrau'n Deg.