Cyfarfodydd

P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Mon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na allent wneud rhagor i fynd â'r ddeiseb yn ei blaen, cytunwyd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 29/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin

E&S(4)-03-14 papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 11 Tachwedd a chytunwyd i:

 

·         ysgrifennu at Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru a'r Prif Gwnstabl i ofyn eu barn am y gweithgaredd anghyfreithlon honedig ar y tir comin;

·         ysgrifennu at Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru i gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebwyr;

·         gofyn i Bwyllgor yr Amgylchedd ystyried goblygiadau'r ddeiseb wrth drafod deddfwriaeth sydd ar y gweill; ac

·         ailddosbarthu’r nodyn briffio cyfreithiol sy'n rhoi crynodeb o'r mater ymhlith yr Aelodau.

 

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Mr Tom Pollock, Prif ddeisebydd

 

Dr Karen Pollock, Deisebydd

 

Cynghorydd Lewis Davies, Deisebydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y canlynol gwestiynau'r pwyllgor: Tom Pollock, Dr Karen Pollock a Lewis Davies.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         wahodd y deisebwyr i siarad gyda'r Pwyllgor yn ei gyfarfod arfaethedig yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd; a 

·         dosbarthu nodyn ar y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y cyfarfod Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae cymunedau lleol yn eu hwynebu o ran diogelu tir comin, ac yn gofyn pa gefnogaeth y gellir ei roi i’r cymunedau hynny.

 

Yn dibynnu ar y rhaglen ddigwyddiadau, cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori ymweliad â Llangoed fel rhan o’r gweithgareddau allgymorth yn ystod tymor yr hydref.

 


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn yn ceisio ei farn am y ddeiseb ac yn holi pam na weithredwyd ar hyn ac a yw’n teimlo bod digon wedi ei wneud i ddiogelu tir comin.


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y mater, a thynnu sylw at yr ymateb diweddar a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog.

 


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb hon a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymchwiliad gan Arolygiaeth Wledig Cymru.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn a oedd, neu a ddylai fod, y gwaith a wnaed ar Dir Comin Marian yn amodol ar gyfeiriad sgrinio o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2007 neu unrhyw reoliadau perthnasol eraill.

 


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Aros am ymateb gan y deisebwyr am y mater hwn.


Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:

I wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor;

I ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn am y materion a godwyd yn y ddeiseb;

I gyhoeddi cais am dystiolaeth ar y pwnc.