Cyfarfodydd
NDM6829 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Capasiti'r GIG
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Capasiti'r GIG
NDM6829
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder am
gapasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid
dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod pwysau
drwy gydol y flwyddyn yn llesteirio gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a
theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â
phwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, er mwyn
sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 -
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn cydnabod y gwaith
sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am
wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod angen
cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG
i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal
critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar
wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod
cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo:
Yn nodi bod pwysau ariannol
sy’n arwain at wasanaethau gofal cymdeithasol gwaeth yn cyfrannu at bwysau
cynyddol ar y GIG.
Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 3, ychwanegu
‘gofal cymdeithasol,’ ar ôl ‘phwysau ar wasanaethau’.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6829 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder am gapasiti
GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn
ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod pwysau drwy
gydol y flwyddyn yn llesteirio gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at
wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau ar wasanaethau
y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, er mwyn sicrhau bod cleifion
yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
1 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu
capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid
dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy
gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at
wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru
Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal
critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau
amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
1 |
19 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6829 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gwaith sy’n
cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau
drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod angen cydnabod a
deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu
mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac
ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu
allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn
derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
1 |
21 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.