Cyfarfodydd
P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-843 Rhagor o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 19 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 11.07.19 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 265 KB
- 26.11.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 57 KB Gweld fel HTML (3/3) 6 KB
- 26.11.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd 2 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 76 KB Gweld fel HTML (3/4) 20 KB
- 26.11.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd - Atodiad: lluniau, Eitem 3 PDF 1 MB Gweld fel HTML (3/5) 2 KB
Cofnodion:
Datganodd Dai
Lloyd AC fuddiant gan ei fod wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebydd yn y
gorffennol.
O ystyried bod y
cynnig o ran hawliau apelio trydydd parti wedi’i wrthod gan Lywodraeth Cymru -
fel yr oedd yn ystod ystyriaeth flaenorol a roddwyd i’r mater hwn wrth graffu
ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 - mae’n anodd gweld sut y gall y Pwyllgor
weithredu ymhellach ar y ddeiseb. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolchodd i’r deisebydd am ei chyfraniadau i’r broses.
Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a
Stephen Phipps.
Cytunodd y
Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth
mewn perthynas â nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gan
gynnwys y potensial ar gyfer apeliadau lle cymeradwywyd cais cynllunio yn groes
i gynnwys cynllun datblygu lleol, sut mae modd herio penderfyniadau cynllunio,
a phrosesau ar gyfer monitro perfformiad arolygwyr cynllunio.
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 29.04.19 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 267 KB
- 03.06.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 140 KB
- 03.06.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor - Atodiad (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 880 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd. Nododd yr
Aelodau yr ohebiaeth a chytunodd i godi materion perthnasol yn ystod ei sesiwn
dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â nifer o
ddeisebau sy'n gysylltiedig â chynllunio yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin.
Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 161 KB
- Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd - papur cyfeithiol (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 386 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
deisebydd a chytunodd i:
- ysgrifennu
at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am ei hymateb i'r sylwadau
ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebydd a chynnwys y papur a luniwyd gan
Glinig y Sefydliad Cyfraith Amgylcheddol Caerdydd; ac
- ystyried
cynnal sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog ar sawl deiseb sy'n
gysylltiedig â chynllunio mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 20.12.18 Gohebiaeth – Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 263 KB
- 07.12.18 Gohebiaeth – Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 121 KB
- 23.01.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 306 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r deisebydd, a chyn ystyried pa gamau pellach y
gallai eu cymryd, cytunodd y bydd yn derbyn cynnig y deisebydd i ddarparu
adroddiad pellach ar y rheswm y mae angen i'r gyfraith newid yn y maes hwn.
Cyfarfod: 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 37 KB Gweld fel HTML (2/1) 7 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 73 KB Gweld fel HTML (2/2) 46 KB
- 25.09.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at y Cadeirydd (Saesneg yn unig) , Eitem 2 PDF 1 MB
- 17.10.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 2 PDF 69 KB Gweld fel HTML (2/4) 20 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:
- Ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn iddi ymateb i
bryderon manwl y deisebwyr. Nododd
y Pwyllgor y bydd, efallai, am gynnal sesiwn dystiolaeth ar hyn a materion
cynllunio eraill yn y dyfodol pan fydd wedi trafod yr ymateb a geir; ac
- Ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru er mwyn:
- ceisio ei farn am y ddeiseb; a
- gofyn iddo rannu pryderon sydd ganddo
ynghylch y modd y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ystyried barn trydydd
partïon yn y broses gynllunio.