Cyfarfodydd

P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd ei bod yn ymddangos nad oes llawer pellach y gallai ei chyflawni ar hyn o bryd, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi diystyru cyflwyno dyletswyddau newydd. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am ei chyflwyno.

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn:

·         am ddiweddariad pellach o'r gwaith sydd ar y gweill a arweinir gan y Gweithgor Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru; a

·         mynegi cefnogaeth y Pwyllgor dros alwad y deisebwyr am ofyniad statudol i gynnwys plant a phobl ifanc wrth gomisiynu gwasanaethau plant a phobl ifanc.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog, yn benodol a yw'n fodlon ar yr ymrwymiad i nodi person ifanc i weithredu fel cynrychiolydd ar y Grŵp, cyn ystyried cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

o   dderbyn y cynnig o ddiweddariad pellach ar y gwaith sydd ar y gweill;

o   gofyn amdano erbyn dechrau tymor yr hydref; a

o   rhannu pryderon y deisebwyr nad yw'n ymddangos bod y gweithgor yn cynnwys cynrychiolaeth gan blant a phobl ifanc; a

·         thrafod a yw'n bosibl ymgysylltu â Senedd Ieuenctid y Cynulliad ar y materion a nodwyd.

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru a'r deisebwyr a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ymateb i'r dystiolaeth ddiweddaraf, yn arbennig galwad y Comisiynydd am i ddyletswyddau newydd gael eu rhoi ar gyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod yn dilyn gofynion CCUHP wrth wneud penderfyniadau ac wrth gomisiynu gwasanaethau, a gofyn a fydd y Gweinidog yn ysgrifennu at gyrff cyhoeddus i'w hatgoffa bod disgwyliad iddynt ddilyn y canllawiau presennol; a
  • gofyn am bapur cyfreithiol pellach mewn perthynas ag a ellid cryfhau gofynion deddfwriaethol yn y maes hwn a'u hehangu i gynnwys pob corff cyhoeddus.

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar:

o   arferion cyfredol mewn perthynas â sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn y broses o gomisiynu gwasanaethau a llywio'r broses honno; a

o   p'un a yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn effeithiol wrth sicrhau cyfranogiad pobl ifanc wrth gomisiynu gwasanaethau lleol; a

 

 


Cyfarfod: 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu sylwadau'r deisebwyr a gofyn iddo am ymateb manwl.