Cyfarfodydd
Dadl ar NNDM6813 - Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar NDM6813 - Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a
garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig
ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i
iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer cynnal profion
pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a
b)
cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n galluogi
gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o ymgysylltu ac ymgynghori â
chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2.
Yn nodi:
a)
o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a
Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr,
dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu
hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.
b)
yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni
Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau
de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud
penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley.
c)
y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd
fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol
ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni
Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.
d)
y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w
waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl
nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o
safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth,
gan dawelu ofnau’r cyhoedd.
Confensiwn
ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn
Llundain, 1972)
(Saesneg yn unig)
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru)
Ym
mhwynt 2, ychwanegu is-bwyntiau newydd:
cymryd
i ystyriaeth y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Athro Emeritws Keith Barnham
ynghylch damweiniau pwll oeri yn Hinkley Point A yn y 1960au;
cyfarwyddo
Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol y caiff
dympio gwaddod o Hinkley yn Cardiff Grounds ar arfordir Cymru, y boblogaeth
arfordirol ac amgylchedd morol Cymru.
Yr
Athro Keith Barnham, 'New evidence of the need to test Hinkley Point sediments
for Uranium and Plutonium' - gosodwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6813
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau
a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n
gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon ynglŷn â
risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer cynnal
profion pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a
b) cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n
galluogi gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o ymgysylltu ac
ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
26 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
2. Yn nodi:
a) o dan delerau’r
Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill
(Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond
deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar
gyfer cael eu gwaredu ar y môr.
b) yr asesiad ymbelydrol
generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol,
yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o
ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch
trwydded forol Hinkley.
c) y dystiolaeth o fewn
adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail
cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig
Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.
d) y ffaith y daeth yr
holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y
terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r
amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor
â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r
cyhoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
22 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6813
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu
deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n
gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.
2. Yn nodi:
a) o dan delerau’r
Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill
(Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond
deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar
gyfer cael eu gwaredu ar y môr.
b) yr asesiad ymbelydrol
generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol,
yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o
ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch
trwydded forol Hinkley.
c) y dystiolaeth o fewn
adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail
cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig
Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.
d) y ffaith y daeth yr
holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y
terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r
amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor
â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r
cyhoedd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.