Cyfarfodydd

P-04-341 Llosgi gwastraff

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Losgi Gwastraff

 

NDM5161 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-341: Llosgi Gwastraff, a osodwyd gerbron y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 30 Ionawr 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.50

NDM5161 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-341: Llosgi Gwastraff, a osodwyd gerbron y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 30 Ionawr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

P-04-341 Llosgi gwastraff - adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Derbyniwyd yr adroddiad drafft yn amodol ar amryw welliannau.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-341 Gwastraff a Llosgi

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-341 Gwastraff a Llosgi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Theatr y Stiwt am gynnal y cyfarfod, yn ogystal â’r tîm clercio a’r tim ehangach am eu gwaith.

 


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-341 Gwastraff a Llosgi

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

P-04-341 Gwastraff a Llosgi – Trafod y dystiolaeth lafar a gyflwynwyd hyd yma

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Gyflwyno adroddiad ar losgi gwastraff a gwneud cais am drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn.

Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn iddo ystyried faint o gefnogaeth sydd i’r ddeiseb hon wrth ystyried llythyr y Pwyllgor sy’n galw ar i gynlluniau llosgydd Caerdydd i gael eu galw i mewn;

Ysgrifennu at y bobl sydd wedi rhoi tystiolaeth am y pwnc i’r Pwyllgor yn gofyn am eu barn ynghylch y model a ddefnyddiwyd er mwyn bod yn sail i benderfyniadau mewn perthynas â llosgyddion.

 

 

 


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-341 Gwastraff a Llosgi – Tystiolaeth Lafar (drwy fideo-gynadledda)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tyst gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

 

 


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-341 Gwastraff a Llosgi

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-341 Llosgi gwastraff - Trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem hon tan ar ôl iddo glywed tystiolaeth gan yr Athro Vyvyan Howard ar 29 Mai.


Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn dystiolaeth lafar

Julian Kirby, Arbenigwr mewn Gwastraff, Cyfeillion y Ddaear

Haf Elgar, Ymgyrchydd, Cyfeillion y Ddaear

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cytunodd y tystion i rannu unrhyw ddata a dadansoddiad perthnasol o effaith y dirwasgiad ar lefel y gwastraff.


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Rob Quick, Uwch-swyddog Adrodd, Prosiect Gwyrdd

Mike Williams, Cyfarwyddwr, Prosiect Gwyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor:

I ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am y datganiad gan Grŵp Gweithredu Unedig y Cymoedd (UVAG) bod Llywodraeth Cymru wedi atal cais y cyngor i gaffael triniaeth fiolegol fecanyddol a bod pwysau ariannol arno i ymuno a’r Prosiect Gwyrdd;

Anfon datganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef bod elfen o losgi ynghlwm â phob dull o ymdrin â gwastraff, ymlaen at y deisebwyr i gael eu barn arno.

 

Cytunodd cynrychiolwyr y Prosiect Gwyrdd i anfon manylion ynghylch faint o dunelli o ludw peryglus sy’n gorfod cael ei drosglwyddo o ganlyniad i losgi ac a oes unrhyw losgyddion sy’n cael eu cau yn yr Unol Daleithau yr un math â’r rhai sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru.


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar

John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Jasper Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Effeithlonrwydd Gwastraff ac Adnoddau

Dr Andy Rees, Pennaeth y Gangen Strategaeth Wastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Gweinidog a’i swyddogion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cam i’w gymryd
Yn dilyn ei rôl flaenorol fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lindsay Whittle AC i ofyn iddo am brofiad Caerffili o ran y Prosiect Gwyrdd.


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar

Matthew Farrow, Cyfarwyddwr Polisi, y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol

Julie Barratt, Cyfarwyddwr, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gomisiynu ymchwil i weld a fyddai cyrraedd targedau ailgylchu’n golygu llosgi llai o wastraff, a all arwain at gosbau ariannol os nad oes gan losgyddion ddigon o wastraff i’w losgi.


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar

Rob Hepworth, Cadeirydd yr Ymgyrch yn erbyn Llosgydd Casnewydd a Sir Fynwy (SNIC)
Haydn Cullen Jones, Is-gadeirydd yr Ymgyrch yn erbyn Llosgydd Casnewydd a Sir Fynwy (SNIC)
Tim Maddison, Llefarydd, y Rhwydaith yn erbyn Llosgyddion yn Ne Cymru (SWWIN)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 24/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-341 Gwastraff a Llosgi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Wahodd tystion, gan gynnwys y Gweinidog, i roi tystiolaeth lafar ar ynni o wastraff;

Hysbysu’r deisebwyr bod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cynnal ymchwiliad i bolisi ynni, a gofyn a hoffent awgrymu meysydd y gellid holi amdanynt yn yr ymchwiliad.

 


Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-341 Gwastraff a llosgi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:

I aros am ymateb gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy;

I ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn i’r mater hwn gael ei drafod fel rhan o’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru;

I ohirio’r trafodaethau ar y mater hwn nes daw’r cyfnod cais am dystiolaeth i ben ar 14 Rhagfyr 2011;

Bod y tîm clercio’n sicrhau bod unrhyw fwlch o ran y dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law hyd yma’n cael ei lenwi. Er enghraifft, hoffai’r Pwyllgor gael tystiolaeth gan awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn.