Cyfarfodydd
P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 43 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 14.01.20 Gohebiaeth – Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 80 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr P-05-775
Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y
gyfraith trwyddedu tacsis a chytunwyd i gau’r deisebau o ystyried bod
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi diystyru mynd ar drywydd
newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, ac mae
Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a newidiadau polisi gyda
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser.
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 28 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 24.07.19 Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Y Diweddaraf ynghylch y Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) a'r agenda ar gyfer diwygio gwasanaethau bysiau yn ehangach, Eitem 3
PDF 72 KB Gweld fel HTML (3/2) 19 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-775
Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y
gyfraith trwyddedu tacsis, a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi
a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau
Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran diwygio trwyddedu tacsis ac, yn benodol, y
cynllun ar gyfer camau tymor byr y gellid eu cymryd ymlaen llaw i
ddeddfwriaeth.
Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
6 P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 6
PDF 43 KB Gweld fel HTML (6/1) 10 KB
- 05.06.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 6
PDF 23 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a
chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd
camau pellach ar y deisebau.
Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn
y diwydiant tacsis.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn
â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y
Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:
- a
fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngu neu atal gweithio
trawsffiniol pe bai'n penderfynu peidio â sefydlu un awdurdod trwyddedu
cenedlaethol yn dilyn yr ymgynghoriad; a
- phe
bai awdurdod trwyddedu cenedlaethol yn cael ei sefydlu, a fyddai'n rheoli
nifer y tacsis a cherbydau llogi preifat sy'n gweithredu mewn ardal
benodol, ac os felly sut.
Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2
PDF 43 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 99 KB Gweld fel HTML (2/2) 42 KB
- 18.09.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 2
PDF 109 KB
- 28.09.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 2
PDF 90 KB Gweld fel HTML (2/4) 25 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:
·
grwpio'r
ddeiseb hon gyda deiseb P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio
trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis, a'u hystyried
gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac
·
aros i
Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio
preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y
ddeiseb.